Susan Elan Jones
Main Page: Susan Elan Jones (Labour - Clwyd South)Department Debates - View all Susan Elan Jones's debates with the HM Treasury
(6 years, 10 months ago)
General CommitteesBefore I call Susan Elan Jones, who was speaking before the break, I remind hon. Members who use the headphones that, when they take them off their heads, they should turn the volume down to avoid feedback on the sound system.
It is a great pleasure to speak when you are in the Chair, Mr Hanson.
Mae’n bleser mawr cael siarad gyda chi yn y Gadair, Mr Hanson.
Dros Gymru a Phrydain gyfan, mae gennym rai o’r gweision cyhoeddus gorau yn y byd, gan gynnwys y bobl sy’n dysgu yn ein hysgolion; y bobl sy’n gweithio yn ein hysbytai; ein diffoddwyr tân a’n heddlu; a’n lluoedd arfog. Mae ein gweision cyhoeddus yn gweithio tu hwnt i’r disgwyl i’n gwasanaethu ni bob dydd a nos. Yr ydym yn aml yn trafod ystadegau yn y lle hwn—mae hynny’n ddigon teg ac yn hanfodol—ond rwyf o’r farn hefyd bod angen inni gyflwyno prawf moesegol i’r gap cyflog ar gyfer gweithwyr sector cyhoeddus.
Yn ddiweddar, roedd nifer fawr o Aelodau Seneddol yn cymryd rhan mewn dadl am dâl ein lluoedd arfog. Gwnaed y pwynt nad oedd cynnydd yn y cyflog yn cyfateb i gost gynyddol tai ar gyfer personél y gwasanaethau arfog. Mynegodd llawer ohonom—yn drawsbleidiol—ein pryder ynglŷn â hyn. Dyna un enghraifft sy’n dangos fy mhryderon am ganlyniad rhewi cyflogau yn y sector cyhoeddus.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam—nid cyngor Llafur, ond un sy’n cael ei redeg gan glymblaid o gynghorwyr Ceidwadol ac Annibynnol—yn dweud ar ei wefan ei fod wedi arbed tua £18 miliwn dros y tair blynedd diwethaf, ac rwy’n credu bydd yn rhaid dod o hyd i £13 miliwn arall dros y ddwy flynedd nesaf. Mae’r cyngor yn nodi ar ei wefan:
“Mae gennym lai o arian i’w wario bob blwyddyn”.
Felly cytunaf ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, a ddywedodd y bydd cyllideb lywodraethol Cymru yn parhau i fod 5% yn is mewn termau real yn 2019-20 nag yn 2010-11. Eto, wrth inni glywed am y pryderon mawr hyn, rydym yn rhoi £3 biliwn heibio i dalu am fethiant y Llywodraeth yn y trafodaethau Brexit. Wrth gwrs, ’dwi ddim yn sôn am y £39 miliwn am y “fargen”—mae’n ddrwg gen i ddefnyddio’r fath air yn y cyd-destun hwn. Doedd dim sôn am y fath beth ar fws enwog yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Beth am ddyled y Deyrnas Unedig? Yn ôl ffigyrau o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae dyled a oedd yn £358.6 biliwn ym mis Mai 1998 erbyn hyn yn £1,726.9 biliwn —swm syfrdanol. Dywedodd Dirprwy Lywodraethwr Banc Lloegr, Ben Broadbent:
“Mae twf cynhyrchiant wedi arafu ym mhob economi uwch, ond mae wedi bod yn fwy difrifol yn y wlad hon nag mewn gwledydd eraill.”
Dywedodd The Daily Telegraph—soniais am y Guardian bore yma, felly rwyf yn cyfeirio at y Telegraph prynhawn yma—fod
“twf cynhyrchiant wedi cwympo”.
Soniodd y newyddiadurwr Tim Wallace yn y Telegraph am y 1860au, sef y degawd diwethaf cyn yr un yma i brofi twf incwm gwironeddol negyddol. Dylai’r sefyllfa bresennol fod o gonsyrn mawr i bob un ohonom.
Er hynny, yn y bôn rwy’n credu mai pobl optimistaidd ydym ni yng ngogeldd Cymru, ac rydw i am orffen ar nodyn optimistaidd. Rwy’n croesawu unrhyw gyhoeddiad am fargen twf gogledd Cymru. Fel dywedais i, byddaf yn ei groesawu’n fwy pan fydd o’n dŵad, ond rydw i yn croesawu’r cyhoeddiad. Mae angen i ni wella’r seilwaith a gweithio’n drawsffiniol i wneud yr A5 a’r A483 yn well ac yn fwy diogel, ac mae angen buddsoddiad i sicrhau mynediad gwell i’n gorsafoedd rheilffyrdd, yn enwedig gorsaf Rhiwabon, yr orsaf ar gyfer traphont ddŵr Pontcysyllte, sy’n gwasanaethu poblogaeth fawr iawn, yn fy etholaeth it.
Mae’n her i bob un ohonom wneud y cytundeb twf yn reality, ac mae’n hollbwysig i ogled Cymru, i bobl Cymru gyfan ac i’n cymdogion ar draws y ffin ein bod ni’n sicrhau bod y cytundeb twf yn gweithio ar gyfer ein cymunedau.
(Translation) We have some of the best public servants in the world, including the people teaching in our schools and working in our hospitals, our firefighters, police officers, armed forces and others. They go above and beyond to serve us, day and night.
We often use statistics while speaking in this place, and that is understandable and, indeed, essential, but we also need to apply an ethical test to a pay cap for public sector workers. Recently, many MPs took part in a debate on pay in the armed forces. The point was made that the wage increase did not correspond with the rising cost of housing for service personnel, and many of us, on a cross-party basis, expressed concerns about that. That is one example of my concerns about what the pay freeze in the public sector can mean.
Wrexham County Borough Council, which is run not by Labour but by a coalition of Conservative and Independent councillors, talks on its website about how it has saved about £18 million during the past three years. I believe that it will have to find another £13 million over the next two years. The council says on its website that it has less money to spend annually. I therefore agreed with Mark Drakeford, the Cabinet Secretary for Finance in Wales, who drew attention to the fact that the Welsh Government’s budget will still be 5% lower in real terms in 2019-20 than it was in 2010-11.
When we hear of these concerns, we acknowledge that we are now putting an additional £3 billion aside in case of failure in the Brexit discussions. Of course, I am not talking about the £39 billion that will be needed in the deal—I am not too happy to be using the word “deal” or “bargain” in this context. There was no warning of that on the leave campaign’s famous bus,
What about the United Kingdom’s debt? According to figures from the Office for National Statistics, the debt that was £358.6 billion in May 1998 is now £1,726.9 billion —a shocking figure.
The Deputy Governor of the Bank of England, Ben Broadbent, said that productivity growth has slowed across all the wealthy nations of the world, but it has been more severe in this country than in others. I mentioned The Guardian this morning, so this afternoon I will mention The Daily Telegraph. It said that productivity growth had decreased.
Tim Wallace, the journalist, talked about the 1860s in The Daily Telegraph, and said that that was the last decade until now that experienced real negative growth. The current situation should be a cause of great concern to all of us.
Essentially, however, I think that we in north Wales are an optimistic people and I will close my speech on an optimistic note. I welcome any announcement on the north Wales growth deal. As I say, I will be more welcoming when it comes, but I welcome the announcements that have been made. We need to improve infrastructure and we need cross-border working to make the A5 and the A483 safer and better, and we need investment to ensure better access to our train stations—particularly Ruabon station, the station for the Pontcysyllte aqueduct, which is very important for my constituency.
The challenge for all of us is to make the promise of the growth deal a reality. It is essential for north Wales—in fact, for the people of all of Wales, and our neighbours on the other side of the border—that we ensure that the growth deal works for our communities.