Liz Saville Roberts
Main Page: Liz Saville Roberts (Plaid Cymru - Dwyfor Meirionnydd)Department Debates - View all Liz Saville Roberts's debates with the HM Treasury
(6 years, 9 months ago)
General CommitteesHoffwn gychwyn trwy ddathlu’r cyfle heddiw i dorri tir newydd a defnyddio’r Gymraeg fel iaith gyfartal yn un o Bwyllgorau agored Tŷ’r Cyffredin. Rwyf yn cymryd y cyfle hefyd i nodi blaengaredd yr hen Gyngor Dosbarth Dwyfor, a benderfynodd ym 1974 mai’r Gymraeg fyddai brif iaith weinyddol yr awdurdod. Ers 1996, y Gymraeg sydd hefyd wedi bod yn brif iaith weinyddol Cyngor Gwynedd, ac yn ei siambr mae’n arfer i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith bob amser pan yn annerch yn gyhoeddus, wrth areithio, wrth ateb cwestiynau ac wrth ymyrryd. Mae’r rheswm am hyn yn syml: er mwyn diogelu defnydd y Gymraeg yn erbyn y norm cyndeithasol o droi i’r Saesneg. Pan fydd siaradwr Cymraeg yn troi i’r Saesneg mewn amgylchedd dwyieithog, yn ddigon buan rydym yn profi bod y Gymraeg ddim yn cael ei defnyddio o gwbl. Nid mater o ddiffyg cwrteisi i bobl di-Gymraeg ydy hyn, eithr mater o gynnal lle diogel i’r iaith mewn bywyd cyhoeddus.
Hoffwn hefyd estyn fy niolch a’m cefnogaeth i bob Aelod Seneddol—o’n i’n mynd i drial eu henwi nhw ond mae yna ormod i mi ddweud—a phob aelod o staff seneddol sy’n mynd ati i ddysgu Cymraeg. Daliwch ati, gwnewch gamgymeriadau, peidiwch â gwrando ar y bobl hynny—ac ma’ ’na ormod ohonyn nhw—sy’n uchafu cywirdeb dros bopeth. A mentrwch i siarad yn hytrach nag aros yn ddistaw. Dim ond trwy ddefnyddio iaith y mae hi’n byw.
Mae pawb sydd wedi defnyddio’r Gymraeg, yn ogystal â phawb sydd wedi defnyddio’r offer gwrando ac, wrth gwrs, y cyfieithwyr yn y cefn yn arloeswyr un ac oll, gyda’n gilydd. Gan ein bod yn sôn bod y sefydliad hwn yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg, mae hyn y gyfle, pan fyddwn yn cael ein decantio, i gynllunio rwan i wireddu caniatáu defnydd o ieithoedd heblaw Saesneg a Ffrangeg Normanaidd i’r dyfodol. Mae yna gyfle i wneud hyn pan fyddwn ni’n mynd o ’ma.
Wrth gyfeirio yn gyntaf oll at yr hyn ddywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, nid yn annisgwyl yr oedd yn canmol rhinweddau Cyllideb yr hydref, yn unol â ac sy’n ddisgwyliedig o’i swydd. Roedd yn ateb yn ôl y disgwyl i gwestiynau parthed diffyg trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe a rheilffordd y Gogledd, a diffyg penderfyniad parthed morlyn Abertawe a’r morlynoedd potensial eraill. Cyfeiriodd at gynnydd Barnett—the Barnett uplift—ond nodwn fod y rhan fwyaf ar ffyrdd benthyciadau. Siaradodd, fel eraill o’i blaid, am gydweithio trawsffiniol. Is-neges sydd i hyn, sef sut y gall Gymru helpu Lloegr.
Nid ein gorllewin ni—gorllewin Cymru—fydd prif fuddiolwr ei bwerdai gorllewinol ond gorllewin Lloegr, gyda briwsion yn unig i orllewin Cymru, dwi’n ofni. Dilynwch yr arian. Yn dilyn degawd o deyrnasu Torïaidd yn San Steffan, mae Cymru yn parhau i fod yn un o wledydd tlotaf Ewrop. Mae cyflogau wythnosol, ar gyfartaledd, yn £393 yng Nghymru o’i gymharu â £434 yn Lloegr. Mae cynhyrchedd Cymru yn 80% o gynhyrchedd y Deyrnas Gyfunol, tra bod Llundain yn nes at 150%. Mater o gywilydd o hyd yw hwsmonaeth ei Lywodraeth dros economi Cymru.
Rwyf yn troi rwan at yr hyn ddywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol cysgodol, yr Aelod anrhydeddus dros Gastell-Nedd. Soniodd am effaith Cyllideb yr hydref ar Lywodraeth Llafur yng Nghymru, gan amddiffyn methiant i wireddu addewid polisi maniffesto i godi cap cyflogau’r sector gyhoeddus—rhywbeth sydd yn rhydd i Lafur wneud yfory yng Nghymru, pe dymunent. Roedd fy Nghyfaill anrhydeddus, yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn siarad yn rymus am ragolygon economi Cymru, a’r cymysgiad tocsig o fuddsoddi mympwyol mewn is-adeiledd a cham-flaenoriaethu economi ac is-adeiledd rhanbarth de ddwyrain Lloegr—a goblygiadau hynny i Gymru. Roedd yr Aelod anrhydeddus dros Fynwy a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn sôn yn briodol am waith y Pwyllgor ac hefyd am ei agweddau angerddol tuag at Brexit. Siaradodd yr Aelodau anrhydeddus dros Orllewin Caerdydd a thros Sir Drefaldwyn am ddarlledu yng Nghymru. Mae hyn yn bwysig, o wybod am yr ansicrwydd sy’n parhau dros ariannu S4C, a’r gyllideb sydd yn ein gwynebu mewn ychydig dros fis.
Soniodd yr Aelod gwir anrhydeddus dros Orllewin Clwyd—daeth hyn yn dipyn bach o dôn gron gan Aelodau eraill ei blaid—am gydweithio trawsffiniol. Mae ’na rybudd fan hyn am anghyfartaledd. Mae Cymru’n derbyn mwy na’i siar o garcharorion o Loegr yn y cawr-garchar yn Wrecsam. Mae’r nifer o garcharorion o Loegr sydd yn Nghymru wedi codi 76% ers mis Mawrth y llynedd.
Torrwyd araith yr Aelod anrhydeddus dros Dde Clwyd yn ei hanner gyda’r rhaniad yn ein dadl heddiw. Siaradodd yn deimladwy am ddefnyddio’r Gymraeg ac effaith yr agenda llymder. Wrth gwrs, agenda llymder gyda’i wreiddiau yma yn San Steffan, ond sydd hefyd yn cael ei arall-gyfeirio gan Lywodraeth Cymru, ac effaith hynny ar wasanaethau lleol.
Roedd yr Aelod anrhydeddus dros Faldwyn yn siarad yn deimladwy am yr hanes o deuluoedd yn colli ac ennill y Gymraeg a goblygiadau statws iaith i benderfyniadau trosglwyddo iaith yn y teulu. Siaradodd fy Nghyfaill anrhydeddus dros Arfon am oblygiadau newidiadau i fudd-daliadau i Gymru, gan gynnig awgrymiadau sy’n cynnwys datganoli, gweinyddu’r gyfundrefn nawdd cymdeithasol i Gymru a’r her o ddylunio systemau technologel-ddigidol sydd yn cynnig dewis iaith i’r defnyddiwr.
Roedd yr Aelod anrhydeddus dros Frycheiniog a Sir Faesyfed yn sôn am y niferoedd mewn gwaith yng Nghymru. Wnaeth hefyd gyfeirio at forlyn Abertawe, er mwyn nodi nad oes gan ei etholaeth yr un filltir o arfordir. Roedd yr Aelod anrhydeddus dros Ogledd Caerdydd yn sôn am sut mae’r Llywodraeth yn tanseilio datganoli a rhoi taw ar lais Cymr—croeso i fyd Plaid Cymru.
Roeddwn yn falch iawn clywed yr Aelod anrhydeddus dros Orllewin Casnewydd yn dyfynnu geiriau’r bardd Ceiriog yn yr Ystafell Bwyllgor hon. Roedd yr Aelod anrhydeddus dros Ddwyrain Abertawe yn sôn am sefyllfa merched WASPI ac rwyf yn ei chymeradwyo a’i llongyfarch am ei gwaith diflino gyda’i hymgyrchoedd. Soniodd yr Aelodau anrhydeddus dros Ferthyr Tudful a thros Gorllewin Abertawe am y cyfleoedd sydd wedi eu colli yn y Gyllideb diweddar.
Er mai testun y drafodaeth heddiw yw’r Gyllideb, y blaidd wrth y drws, wrth gwrs, yw Brexit. Er gwaetha gwaharddiad achlysurol y Cadeirydd blaenorol—dwi’n siwr tase ni wedi bod yn sôn am Gaergybi bydde fe wedi bod yn wahanol—cyfeiriwyd at Brexit gan nifer o’r siaradwyr ac ymyrrwyr. Mi wn fod Uwch Bwyllgorau Cymreig yn bethau prin, ond hoffwn gymryd y cyfle i alw am Uwch Bwyllgor Cymreig ar amaeth yng Nghymru a Brexit. Emosiynau cymysg sydd gen i wrth wrando ar siaradwyr Llafur yn mynegi pryderon am effaith y cyflwr parhaol o ansicrwydd ar economi Cymru heddiw, ac am yr angen i barhau yn yr undeb tollau. Gwell iddyn nhw gyfeirio’u cri at eu plaid eu hunain.
Roedd cryn sôn am rinweddau bargeinion twf i’r de a’r gogledd ac i’r canolbarth, a galwodd yr Aelod anrhydeddus dros Orllewin Clwyd am hyrwyddo cydweithredu rhwng Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a gogledd Cymru. Dwi’n croesawu rôl arweinwyr cyngor ym margen twf gogledd Cymru ond yn annog y Llywodraeth i gymryd camau cadarnhaol i gynnal cydweithredu gyda’n cymdogion agosaf yn y gorllewin, sef Iwerddon a Gogledd Iwerddon. O lle dwi’n byw ym Mhen Llŷn, Dulyn yw’r brif ddinas agosaf—yn nes na Chaerdydd a llawer yn nes na Llundain.
Yn olaf, hoffwn bwyso ar yr Ysgrifennydd Gwladol i ddod â rhagor o wybodaeth i ni yng Nghymru am y gronfa ffyniant gyfrannol—neu “shared prosperity fund”. Os byddwn yn gadael y polisi amaethyddol cyffredin a’r gronfa strategol Ewropeaidd, cronfa gymdeithasol Ewrop, o ble ddaw y gynhaliaeth a fu? Mae’r Undeb Ewropeaidd yn gweithredu egwyddor anrhydeddus o leddfu effeithiau anghyfartaledd. Does dim y ffasiwn draddodiad yma gan Lywodraeth San Steffan. Gofynnwn am ragor o wybodaeth am y gronfa ffyniant gyfrannol. Sut bydd ffyniant a thlodi yn cael eu diffinio, ac a ydy’r Ysgrifennydd Gwladol yn gallu gwarantu y bydd cyllidebau’r dyfydol yn gwneud yn siwr na fydd Cymru’n colli’r un ddimai goch dan law’r Ceidwadwyr?
(Translation) I want to start by celebrating the opportunity to break new ground today in using the Welsh language in a Committee of the House of Commons. I also take the opportunity to note the innovation of the old Dwyfor District Council that decided in 1974 that Welsh would be the main administrative language of the authority. Since 1996 Welsh has also been the main administrative language of Gwynedd Council, and in its chamber Welsh speakers tend to always use the Welsh language when speaking publicly, when making addresses, in responding to questions and in making interventions. The reason is simple: to safeguard the use of the Welsh language against the social norm of turning to English. When a Welsh speaker turns to English in a bilingual environment, all too soon the Welsh language is not used at all. It is not a matter of a lack of courtesy to non-Welsh speakers. It is a matter of maintaining a safe place for the language in public life.
I also want to take this opportunity to extend my thanks and support to all Members of Parliament. I wanted to name them, but there are far too many. I encourage all members of parliamentary staff who are learning Welsh to persevere, to make mistakes, and not to listen to the people—there are too many of them—who put linguistic correctness above all else. They should take the chance to speak rather than remain silent. Only through the use of the language will the language live. Everyone who has used the interpretation equipment knows our interpreters at the back of the room are innovators. As we discuss the fact that this institution is making the best use of technology, and given the decant, we should plan now to allow for the use of languages other than English and Norman French in future. There is a real opportunity to do so when we leave this place.
On the Secretary of State’s comments, he praised the Budget, as can be expected from one in his post. He responded to questions on the lack of electrification between Cardiff and Swansea and the north Wales main line, and on the absence of a decision on the Swansea bay tidal lagoon and other tidal lagoons. He referred to the Barnett uplift, but we note that most of that comes in the form of loans. Others from his party talked about cross-border working. The subliminal message in all this is how Wales can help England.
The western powerhouses will not be the west of Wales, but the west of England, with some crumbs from the table for the west of Wales. Let us follow the money. Following a decade of Tory rule in Westminster, Wales is still one of the poorest nations in Europe. Average weekly salaries in Wales are £393 compared with £434 in England. Productivity in Wales is 80% of the productivity of the UK, and London is closer to 150%. The Government’s management of the Welsh economy is a matter of shame.
The hon. Member for Neath mentioned the impact of the autumn Budget on the Welsh Government in failing to deliver a manifesto pledge to lift the cap on public pay. A Labour Government could do that tomorrow in Wales if they so wished. My hon. Friend the Member for Carmarthen East and Dinefwr spoke powerfully about the economic forecast for Wales and the toxic mix of ad hoc infrastructure investments, as well as the prioritising of expenditure in the south-east of England and the implications of that for Wales. The hon. Member for Monmouth, the Chair of the Welsh Affairs Committee, spoke about the work of that Committee and about his passionate views on Brexit. The hon. Members for Cardiff West and for Montgomeryshire spoke about broadcasting in Wales. That is important given the uncertainty about the future of S4C, and decisions that we are expecting in just over a month.
The right hon. Member for Clwyd West mentioned the issue of cross-border working, which was repeated a number of times by members of his party. There is an issue of inequality for Wales. In the context of cross-border working, I would like to highlight the inequality that Wales takes more than its share of prisoners from England into the super prison in Wrexham, with the number of prisoners from England and Wales having risen by 76% since March last year.
The hon. Member for Clwyd South, whose speech was cut in half due to the break in our proceedings today, spoke very powerfully on the use of the Welsh language and on the austerity agenda. Of course, austerity in Wales has its roots here, but it is also being implemented by the Welsh Government, and that is having an impact on local authorities.
The hon. Member for Montgomeryshire spoke passionately about the stories of families who had lost and gained the Welsh language, and the implications of the language status in terms of decisions on language transfer within families. My hon. Friend the Member for Arfon talked about the implications of universal credit for Wales, making suggestions that include devolving the administration of welfare to Wales, and about the challenge of designing IT systems that provide a language choice for the service user.
The hon. Member for Brecon and Radnorshire talked about the numbers in work in Wales. He also referred to the Swansea bay tidal lagoon, noting that his constituency has not a single mile of coastline. The hon. Member for Cardiff North mentioned how the Government are undermining devolution and silencing the voice of Wales—welcome to Plaid Cymru’s world.
I was very pleased to hear the hon. Member for Newport West quote the words of the poet Ceiriog in the Committee Room. The hon. Member for Swansea East mentioned the Women Against State Pension Inequality Campaign, and I applaud and congratulate her for her tireless work on that. The hon. Members for Merthyr Tydfil and Rhymney and for Swansea West talked about the opportunities missed in the recent Budget.
Although the topic of today’s discussion is the Budget, the wolf at the door is of course Brexit. Despite the occasional prohibition from this morning’s Chair—if we had been talking about Holyhead I am sure it would have been different—Brexit was mentioned by a number of speakers. We know that Welsh Grand Committees are few and far between, but I would like to take this opportunity to call for a Welsh Grand Committee on agriculture in Wales and Brexit. I had mixed emotions listening to Labour Members talking about the impact of the ongoing uncertainties in the Welsh economy and of the need to remain in the customs union. They should refer their comments to their own party.
Mention was made of growth deals for north Wales, south Wales, and mid-Wales. The right hon. Member for Clwyd West talked about the promotion of co-operation between the Mersey Dee Alliance and north Wales. I welcome the role of councils in the north Wales deal, but I encourage the Government to take positive steps to maintain collaboration with our nearest neighbours in the west: Ireland and Northern Ireland. Where I live, in the Llŷn Peninsula, Dublin is the closest capital—closer than Cardiff and much closer than London.
Finally, I urge the Secretary of State to bring us further information on the shared prosperity fund. If we leave the common agricultural policy and the European structural fund, the European social fund, where will the maintenance and the support come from? The European Union implements an honourable principle of alleviating inequality. There is no such tradition here in the Westminster Government. I ask for further information about the fund. How will poverty be defined, and is the Secretary of State able to guarantee that future Budgets will ensure that Wales does not lose a single penny at the hands of the Conservatives?