Autumn Budget as it Relates to Wales (Morning sitting) Debate
Full Debate: Read Full DebateLiz Saville Roberts
Main Page: Liz Saville Roberts (Plaid Cymru - Dwyfor Meirionnydd)Department Debates - View all Liz Saville Roberts's debates with the Wales Office
(6 years, 10 months ago)
General CommitteesRydw i’n falch fod y Foneddiges anrhydeddus wedi gofyn y cwestiwn. Y peth sydd wrth wraidd y cynlluniau twf a’r bargeinion dinesig yw bod y grym yn nwylo’r awdurdodau lleol a busnesau lleol. Felly, rydym yn rhoi cyfle at ei gilydd ac, yn amlwg, yn gobeithio bydd y Foneddiges anrhydeddus yn fodlon cydweithio gyda’r cymunedau a’r busnesau er mwyn eu bod yn cyflawni’r cynlluniau ac i ddod â realiti i’r broses wrth ei bod yn datblygu.
Fel Aelodau Seneddol o bob cwr o Gymru, mae’n bwysig ein bod i gyd yn rhan o’r broses hon. Felly, rwyf yn falch iawn y llwyddodd gymaint ohonoch i ymuno â Swyddfa Cymru cyn y Nadolig i glywed yn uniongyrchol gan ein partneriaid lleol ynglŷn â’u cynnydd yng ngogledd Cymru. Yn amlwg, mae angen mwy o waith i gefnogi’r gwaith da sydd wedi mynd o’i flaen.
(Translation) I am glad that the hon. Lady asked that question. What lies at the heart of the growth and city deals is that the power lies in the hands of local authorities and local businesses, so we are giving them an opportunity to come together. We hope that she is willing to work with communities and businesses to achieve the deals and to make them a reality as they develop.
It is important that Members of Parliament from all parts of Wales are part of the process. I was therefore delighted that so many of the Members present were able to join us before Christmas to hear directly from local partners on the progress that they are making in north Wales. Obviously, we need more work in that regard to support the good work that has taken place already.
Mae angen i’r Ysgrifennydd Gwladol fod yn effro i’r perygl o weithio’n drawsffiniol: y bydd yr ardaloedd tlotaf, sef yr ardaloedd yn y gorllewin, o hyd yn olaf yn y dewisiadau. Rydym wedi cael yr un profiad gyda chysylltedd, lle mae dechrau gyda’r prif drefi yn golygu bod y cymunedau pellaf i ffwrdd yn cael eu anghofio erbyn y diwedd.
(Translation) The Secretary of State must be alive to the dangers of working on a cross-border basis: that the poorest areas—those in the west—will be left behind. That is the same problem we have had with connectivity, which started in the main towns, so the most remote communities were ultimately forgotten.
Rwyf yn falch iawn fod y cwestiwn yna wedi cael ei ofyn. Rwyf yn deall y peryg ac yn ymwybodol o’r sensitifrwydd. Mae’n rhaid bod y partneriaid lleol yn ymateb i hyn, er mwyn bod setliad gan bawb. Os nad yw pawb yn gytûn, yn amlwg, bydd y bargen dinesig a’r bargen twf ddim yn cael cefnogaeth gen i na’r partneriaid lleol eraill. Mae’n rhaid fod pawb yn gytûn yn y broses. Rwyf yn awyddus i weld busnesau ledled y rhanbarth a thu hwnt yn hybu'r bargeinion hyn, gan adeiladu ar gryfderau'r ardaloedd—pob ardal—gweithio'n drawsffiniol a rhoi hwb i'r economi lleol.
Roedd y Gyllideb hefyd yn cydnabod bod angen gwella ein rhwydwaith rheilffyrdd, gan roi hwb i gysylltiadau a gwella teithiau i gwsmeriaid ar y trenau mwyaf diweddar.
(Translation) I am very glad that that question was asked. Obviously, I understand the risk, and I am aware of the sensitivity that arises. Local partners must respond to that to ensure that the settlement is for everyone, because if everyone is not agreed, obviously the city or growth deal would not be supported, whether by me or by other local partners. Everyone must be agreed on the process. I am keen to see businesses across the region and from further afield driving the deals, building on the strength of the regions—that is all regions, cross-border too—and boosting the local economy.
The Budget also recognised the need to see further improvements to our rail network, boosting connectivity and delivering better journeys on the newest trains.
Mae’r Bonheddwr anrhydeddus yn gwneud pwynt cywir iawn a byddaf yn dychwelyd i’r pwyntiau hynny yn hwyrach yn fy araith.
(Translation) The hon. Gentleman makes a very valid point, and I will return to the issues he raises.
A fyddai fy Nghyfaill anrhydeddus yn cydymdeimlo gyda ffermwyr fyddai’n disgwyl gyda’r bunt wan y byddai defaid o faint bach yn gwerthu’n dda ar y cyfandir? Nid dyma’r neges a glywaf gan fy ffermwyr i ym Meirionydd.
(Translation) Does my hon. Friend sympathise with farmers who would expect smaller sheep to sell well on the continent, even though that is not the message that I am hearing from farmers in Meirionnydd?
Mae hynny’n wir. Roeddwn yn darllen rhywbeth ddoe bod disgwyl y bydd pris defaid, yn enwedig, a chig yn syrthio’n ddifrifol os mae Cymru’n ffeindio’i hunan y tu allan i’r undeb tollau. Mae’r peryglon ar gyfer y sector amaethyddol, sydd yn ein gwynebu yn y dyfodol agos, yn beryglus iawn. Mae ein arweinydd seneddol yn codi pwynt dilys iawn.
(Translation) That certainly is the case. I was reading something yesterday that said that the price of sheep, and of meats in general, is expected to fall significantly if Wales finds itself outside the customs union. The risks for the agricultural sector in the very near future are huge. Our parliamentary leader raises a very valid point.
Mae’r Bonheddwr anrhydeddus yn codi pwynt dilys. Ces i ddim y cyfle i wneud y pwynt yma yn ystod y ddadl, ond yn bersonnol byddwn i wedi moyn symud y Senedd allan o Lundain. Rydw i’n credu byddai hynny wedi bod yn symbol o’r angen i ddatganoli’n economaidd y Wladwriaeth Brydeinig. O ystyried bod y penderfyniad bellach wedi cael ei wneud—rwy’n llongyfarch y Bonheddwr anrhydeddus ar ennill ar ei welliant—dylem nawr fanteisio ar y cyfle i sicrhau bod y buddsoddiad hynny yn cael ei wasgaru ledled y Wladwriaeth Brydeinig. Rwy’n credu bod yna job wirioneddol i’w wneud ar hynny, ac rwy’n edrych i’r Bonheddwr anrhydeddus i gynnig arweiniad, o ystyried mai fe sydd wedi arwain y ddadl i aros fan hyn—dyna job fach iddo fe dros y blynyddoedd nesaf.
(Translation) The hon. Gentleman raises a valid point. I did not have the opportunity to make this point during the debate, but I wanted to move Parliament away from London, because that would be a symbol of the need to devolve the British states economically, too. Given that a decision has been made—I congratulate him on getting his amendment to that motion through—we should take every opportunity to ensure that that investment is spread across Britain. There is a real job to be done there, and I look to him to give leadership on that over the next few months, given that he has led the debate for remaining here.
Ar destun yr ardoll brentisiaethau, onid yw’n amser i ni gael mwy o eglurdeb ynglyn â chwmnïau gyda’u prif swyddfeydd tu allan i Gymru a gyda gweithwyr o Gymru, a’r arian sydd yn cael ei drosglwyddo o’r Trysorlys fan hyn i Gaerdydd? Yn enwedig, mae’r ardoll o 0.5% yn cael ei chodi ar gyflogres pedwar Heddlu Cymru, ond nid yw hynny o ddewis Llywodraeth Cymru ac nid ydyw’n cael ei rhoi tuag at hyfforddiant yr heddlu.
(Translation) On apprenticeships, is it not time for us to get greater clarity on businesses that are headquartered outside Wales but have workers from Wales, with respect to the money that is transferred from the Treasury to Cardiff? In particular, the levy is raised on the four police forces of Wales, which can apply to their wage packets, but it does not come under the responsibility of the Welsh Government and it does not reach the police’s training budgets.
Mae hynny’n bwynt hollol deg o ran prentisiaethau plismona. Yn sicr, bydd Aelodau ein plaid ni yn ei godi yn y ddadl ar Lawr y Tŷ prynhawn yma. Y cwestiwn sylfaenol yw: pam y dylid gwario arian trethdalwyr Cymru ar brosiectau yn Lloegr tra bod Llywodraeth Prydain yn gwrthod buddsoddi mewn prosiectau Cymreig ac mewn gwirionedd yn torri addewidion megis trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe? Rydym ni wedi clywed lot yn barod am y pwnc hynny yn ystod y ddadl.
Os yw Llywodraeth Prydain eisiau codi cynhyrchedd mewn ardaloedd daearyddol sydd yn perfformio’n wael, rhaid iddynt ailgyfeirio buddsoddiad i’r ardaloedd hynny yn hytrach na lluchio popeth at Lundain. Mae pawb bellach yn cytuno bod buddsoddiad estynedig, tymor hir mewn seilwaith yn un o ragofynion llwyddiant economaidd. Os edrychwn ar fuddsoddiad o’r fath dros y degawdau aeth heibio, yr hyn a welwn yw cyfran anghymesur o fuddsoddiad o’r fath yn mynd i Lundain a de-ddwyrain Lloegr. Gallwn edrych ar HS1, lein y Jiwbilî, lein Victoria, Crossrail 1, Crossrail 2, yr M25 a HS2. Ni fu buddsoddiad cyffelyb yn unrhyw wlad na rhanbarth arall o’r Deyrnas Gyfunol. Pam? Oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys agwedd Lundain-ganolog y pleidiau Unoliaethol. Gall hefyd fod oherwydd y modelau economaidd a ddefnyddir wrth werthuso buddsoddiadau o’r fath.
O ystyried y swyddi sydd wedi eu canoli yn Llundain, mae’r elw tymor byr ar bob punt a fuddsoddir mewn seilwaith yn debygol o fod yn uwch yno na mewn rhannau eraill o’r wladwriaeth Brydeinig. Mae hyn yn ei dro yn arwain at sbiral lle mae symiau cynyddol o fuddsoddiad trafnidiaeth yn mynd i Lundain, ac yn eu tro mae’r rhanbarthau tlotaf yn mynd a’r sbiral tuag at i lawr. Mae yma wers inni yng nghyd-destun Cymru. Fel dywedodd fy Nghyfaill anrhydeddus dros Geredigion, mae’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru wedi’i anelu’n fwyfwy at Gaerdydd a’r de-ddwyrain yn hytrach na chael ei wasgaru ar draws ein gwlad.
Yn 2015-16, yr oedd gwariant cyhoeddus ar drafnidiaeth yn £973 y pen yn Llundain o gymharu â £444 yng Nghymru. Petai lefel y gwariant yng Nghymru yr un fath ag yn Llundain, buasem yn derbyn £1.6 biliwn yn ychwanegol y flwyddyn i’w fuddsoddi. Mae’r anghydraddoldebau cyfoeth mor ddifrifol yn y wladwriaeth Brydeinig fel y dylid anfon swyddogion y Trysorlys i’r Almaen i ddysgu gan yr Almaenwyr sut y gwnaethant ymdrin ag anghydraddoldebau cyfoeth daearyddol yn dilyn cwymp wal Berlin.
(Translation) That is an entirely fair point. Members of our party will return to that point on apprenticeships in policing in this afternoon’s debate on the Floor of the House. The fundamental question we must ask is why Welsh taxpayers’ money should be spent on English projects while the British Government refuse to invest in Welsh projects, and renege on promises such as the electrification of the main line to Swansea. We have heard much about that already. If the British Government want to raise productivity in low-performing areas, they must redirect investment into those areas, rather than throwing everything at London.
It is widely agreed that sustained long-term investment in infrastructure is a prerequisite of economic success. In recent decades, a disproportionate amount of that investment has been made in London and the south-east of England, such as that on HS1, the Jubilee line, the Victoria line, Crossrail 1, Crossrail 2, the M25 and HS2. There has been no comparable investment in any other country or region of the UK. Why? It is due to a number of factors, including the Unionist parties’ London-centric approach. It may also be because of the economic models employed in evaluating such investments.
Given the concentration of employment in London, the short-term return on every pound invested in infrastructure is likely to be higher there than in other parts of the UK. That, in turn, leads to a spiral, in which ever-increasing amounts of investment in transport go to London, and the poorest regions spiral downwards. I believe there is a lesson there for us about the Welsh context. My hon. Friend the Member for Ceredigion made the point that Welsh Government investment is targeted more and more at Cardiff and the south-east, rather than being spread across the nation.
In 2015-16, identifiable public expenditure per capita was £973 in London, compared with £444 in Wales. If the level of spending in Wales were the same as it is in London, we would receive an extra £1.6 billion per annum for investment. The wealth inequalities are so important that Treasury officials should be sent to Germany to learn how it went about addressing the geographical wealth inequalities following the fall of the Berlin wall.
Essentially, Germany made a strategic decision to deal with the wealth inequalities in the reunified Germany, which was based on operating aids and tax incentives for the poorer regions, and the deliberate redirection of foreign direct investment into the poorer parts of the state.
Yn niffyg hynny, rhowch inni yng Nghymru yr arfau i fwrw ymlaen â’r dasg o adeiladu ein gwlad ein hunain, oherwydd dengys hanes nad yw aros am Lywodraethau San Steffan—o ba bynnag liw—i gyflawni pethau ar gyfer Cymru yn debyg o ddelio â’n problemau. Mae Cymru wedi dioddef nid yn unig o ddiffyg sylw a buddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ond o flerwch llawer Llywodraeth Lafur yng Nghymru a’u hanallu i gyflawni. Mae eu hymdrech ddiweddaraf i greu strategaeth economaidd yn rhyfeddol am ei bod heb unrhyw ddangosyddion perfformiad allweddol i fod yn ganllaw i’r sawl sydd i fod i weithredu’r strategaeth ac i alluogi’r gweddill ohonom i fesur pa mor llwyddiannus yw’r strategaeth.
Roedd y Gyllideb yn wan iawn. Ystyriwn y gwyliau treth stamp. Dywedodd Pwyllgor Dethol y Trysorlys, Swyddfa Cyfrifoldeb y Gyllideb a’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid y bydd polisi’r Llywodraeth o roi gwyliau treth stamp, y buont mor uchel eu cloch yn ei gylch, yn gwthio prisiau tai i fyny o ryw 0.3%, gyda’r rhan fwyaf o’r cynnydd yn digwydd eleni. Yn y Gyllideb, neilltuwyd £3 biliwn yn ychwanegol i gynllunio am Brexit. Felly yn hytrach na £350 miliwn yr wythnos i’r gwasanaeth iechyd, yr ydym yn gwario yn agos i £58 miliwn yr wythnos ar fiwrocratiaid y wladwriaeth Brydeinig—ac nid ydynt hwy, hyd yn oed, fel petaent yn rhoi’r atebion mae’r Llywodraeth eisiau eu clywed i’r cwestiynau nad oeddent eisiau eu gofyn.
Er iddynt gynnig rhyw godiad pitw o £2.8 biliwn i’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr dros y tair blynedd nesaf, mae hyn yn edrych fel rhywbeth rhy fach yn rhy hwyr, gan ystyried y storïau yn y wasg dros y misoedd diwethaf. Yng nghanol argyfwng y gaeaf, gwelwn effeithiau tan gyllido cronig yn y gwasanaeth iechyd yn Lloegr. Mae’n amlwg na allwn ymddiried yn y Ceidwadwyr i ofalu am y gwasanaeth iechyd yn Lloegr. Fodd bynnag, dyw record Llafur yng Nghymru ddim llawer gwell. Fel gyda’r rhan fwyaf o bethau, maent yn siarad digon o eiriau teg yn San Steffan, ond lle maent mewn grym, mae’r stori yn wahanol iawn.
Mae’r newidiadau i’r credyd cynhwysol—universal credit—a chynlluniau i wneud i ffwrdd â’r cyfnod cychwynnol o saith diwrnod i hawlwyr pan na fuasent wedi bod yn gymwys i gael budd-daliadau, a lleihau’r cyfnod aros presennol o chwech wythnos i’r rhan fwyaf o hawlwyr i bump wythnos, i’w groesawu. Ond mae hyn yn gyfystyr, mewn gwirionedd, a rhoi plaster ar goes sydd wedi torri. Mae’r ffordd ddi-drefn y cyflwynodd y Llywodraeth y credyd cynhwysol, a’r modd y gweinyddir cynlluniau lles yn ehangach, yn gywilyddus. Mae ymwneud â chwmnïau preifat mewn lles yn anfoesol ac yn anghyfrifol. Ni ddylai cwmnïau fel Capita elwa o drueni pobl eraill. Rydym yn croesawu’r dreth ar werthiannau a gynhyrchir yn y Deyrnas Gyfunol a fydd yn effeithio ar fusnesau digidol mawr fel Apple a Google. Ond unwaith eto, fodd bynnag, gwyddom fod y Torïaid yn gwrthwynebu llawer o newid yn strwythur ein sustem dreth, sydd ar hyn o bryd â thyllau dianc sy’n caniatáu osgoi gwerth £13 biliwn mewn trethi, a pheidio â thalu mwy fyth. Doedd dim ymrwymiad penodol i gynyddu cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus, y rhewyd eu cyflogau—ac a gapiwyd wedyn ar 1%—ers 2010. Diolch i chwyddiant, mae hyn yn golygu fod cyflogau nyrsys wedi eu torri mewn gwirionedd o 14%. Mae Cymru yn dal i dderbyn llai y pen na Llundain. Yn anffodus, mae’r blaid Lafur yn methu gwneud yn iawn am y cam yng Nghymru, er fod ganddynt y pwerau i wneud hyn, fel mae’r Llywodraeth SNP wedi llwyddo i wneud yn yr Alban.
Mae Cymru’n dal yn derbyn llai y pen na Llundain. Yma mae rhai o gymunedau tlotaf Ewrop ac mae toriadau enfawr mewn cyllid o ganlyniad i Brexit. Mae’n her sylweddol i sectorau allweddol ein economi. Ac eto, mae’r Canghellor yn dewis defnyddio ystadegau fyddai’n fwy addas i un o fysiau mawr coch yr Ysgrifennydd Tramor i honni y bydd cynnydd o £1.2 biliwn yng nghyllid cyhoeddus Cymru o Gyllideb yr hydref. Roedd yn ddiddorol iawn yn ystod cyflwyniad yr Ysgrifennydd Gwladol: wnaeth e ddim defnyddio’r ffigwr hynny yn benodol yn ei araith, gan ei fod yn gwybod, fel dywedodd arweinydd Aelodau Seneddol Cymreig y blaid Lafur yma heddiw, bod dros hanner yr arian hwnnw yn fenthyciadau—neu fiscal transactions—y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru dalu yn ôl.
Doedd dim sôn am drydaneiddio’r rheilfyrdd, sydd wedi ei ganslo er yr addewid a roddwyd; dim sôn am y morlyn llanw ym Mae Abertawe, a dim golwg ohono yn y Gyllideb; a chyllid i wasanaethau datganoledig rhyw £750 miliwn yn is nag ar ddechrau’r ddegawd. Dyna record y Llywodraeth Brydeinig pan mae’n dod at Gymru. Mae stori’r Gyllideb hon yn hollol glir: nid yw San Steffan yn becso am Gymru.
(Translation) Failing that, give us in Wales the tools to move ahead with the job of building our own country. History demonstrates that waiting for Westminster Governments of whatever colour to deliver for Wales is unlikely to address our problems. Wales has suffered not only from the UK Government’s lack of attention and investment, but from successive Labour Governments’ ineptitude in Wales and their inability to deliver. The latest effort to create an economic strategy is remarkable in that the strategy is without any measurable key performance indicators to guide those who are to implement it and enable the rest of us to gauge how successful its implementation is.
Let me turn to some specific aspects of the Budget, which was very weak. The Treasury Committee, the Office for Budget Responsibility and the Institute for Fiscal Studies stated that the Government’s policy of a stamp duty holiday, which they were so vocal about, will push house prices up by 0.3%, and that most of the increase will come through this year. The Budget provided £3 billion to plan for Brexit. Rather than the £350 million for the health service that we were promised, we are spending almost £58 million per week on bureaucracy in the British state. The bureaucrats are not even providing the answers that the Government want to hear.
The minute increase of £2.8 billion for the NHS in Wales is too little, too late, given the stories in the press in the past few months. The winter crisis has shown the impact of the chronic underfunding of the NHS in England. It is clear that we cannot trust the Conservatives to take care of the NHS in England. However, Labour’s record in Wales is not much better. Labour Members speak warm words in Westminster, but when they are in power the story is very different indeed.
The changes to universal credit, including the plan to do away with the initial period of seven days in which claimants cannot receive payments and the reduction of the waiting time from six weeks to five weeks for most claimants, are to be welcomed, but they amount to putting a plaster on a broken leg. The chaotic way in which universal credit was introduced and the way that welfare is administered more generally is disgraceful. The involvement of private companies is immoral and irresponsible. Companies such as Capita should not benefit from the misery of others. We welcome the introduction of a tax on sales generated in the UK, which will affect companies such as Apple and Google, but we know that the Tories are opposed to making changes to our tax structure, which contains loopholes that allow for the avoidance of £13 billion of taxation.
The Budget contained no specific commitment to increase public sector pay, which has been frozen and capped at 1% since 2010. Thanks to inflation, that means that nurses have had a real-terms cut to their salaries of 14%. The Labour party, unfortunately, has not put that right in Wales, as the Scottish National party Government managed to do in Scotland, despite having the power to do so.
Wales still gets less per capita than London. It has some of the poorest communities in Europe, and there are huge cuts to budgets as a result of Brexit, and significant challenges to crucial sectors of our economy. Yet the Chancellor chooses to use statistics that would be more appropriate for one of the Foreign Secretary’s red buses, to claim an increase of £1.2 billion in the Welsh budget emerging from the autumn Budget. It was interesting that the Secretary of State did not use that figure during his opening remarks, because he knows that, as the shadow Secretary of State for Wales said here on behalf of Welsh Labour MPs, more than half of that is fiscal transactions that the Welsh Government will have to repay.
There was no mention of the electrification of rail, which has been cancelled, despite the pledge that was given; there was no talk of the tidal lagoon in Swansea Bay, and no sign of that in the Budget either; and funding for devolved services is lower by some £750 million than it was at the beginning of the decade. That is the record of the British Government with respect to Wales. The story of the Budget is clear: Westminster does not care about Wales.