Glyn Davies
Main Page: Glyn Davies (Conservative - Montgomeryshire)Department Debates - View all Glyn Davies's debates with the HM Treasury
(6 years, 9 months ago)
General CommitteesDiolch, Mr Hanson, am roi’r cyfle i mi gyfrannu i’r ddadl hanesyddol hon drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma’r tro cyntaf i ni ddefnyddio’r Gymraeg yma yn San Steffan—nid yw hyn wedi digwydd o’r blaen—a dyna pam mae’n ddadl hanesyddol.
Yn siarad yn bersonnol, mae’n arwyddocaol fy mod i’n gallu cyfrannu yn Gymraeg. Pan ges i fy ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd yn 1999, doeddwn i ddim yn gallu siarad gair o Gymraeg. Ers hynny, rydw i wedi gwnuud fy ngorau i ddysgu’r iaith—iaith y nefoedd. Roedd bob un o’m hynafiaid yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Roedd fy rhieni yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, ond wedi iddynt briodi symudasant i ran o Sir Drefaldwyn lle doedd neb yn siarad Cymraeg. Yn fwy arwyddocaol, roedd pobl yn gweld yr iaith fel iaith o fethiant—doedd neb ar y pryd eisiau siarad Cymraeg. Mae pethau wedi newid heddiw, ond mae lot o pobl wedi anghofio beth oedd y sefyllfa amser maith yn ôl.
Ni chlywais fy nhad na’m mam yn siarad Cymraeg o gwbl, felly ni allai fy mhump chwaer na fi siarad gair o Gymraeg. Nid oeddwn i’n medru gwneud tan i mi ddod yn Aelod o’r Cynulliad. Ar ôl cael fy ethol i’r Cynulliad, lle mae llawer o Gymraeg yn cael ei siarad, gan gynnwys yn y Siambr, penderfynais fy mod i am ddysgu’r iaith. Gallwch weld felly, Mr Hanson, pam mae’r ddadl hanesyddol hon mor bwysig i fi yn bersonnol, yn ogystal â bod yn hanesoddol o ran San Steffan.
Mae’r ddadl Uwch Bwyllgor Cymreig yma yn rhoi’r cyfle i ni ystyried y Gyllideb a beth mae’n olygu i Gymru. Yn fy mharn i—rwy’n gwybod na fydd pawb yn cytuno â hyn—mae wedi bod yn newyddion da iawn i Gymru. Cynuddodd y Gyllideb yr arian ar gael i Lywodraeth Cymru wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cynuddodd y grym gwario gan £1.2 biliwn bob blwyddyn, sy’n arwyddocaol iawn. Roedd grym gwario wedi codi £1.2 biliwn bob blwyddyn, ac mae hynny’n arwyddocaol. Pan oeddwn yn Aelod yn y Cynulliad, roedd llawer o drafod am y fformiwla Barnett a’r Barnett floor hefyd. Galw am fwy o arian i Gymru, mwy o rym gwario.
Ar y pryd, roedd pobl yn gweld yr Athro Gerry Holtham fel arbenigwr a bob tro roeddem yn siarad am y Gyllideb yn y Cynulliad, roedd people yn dyfynnu’r Athro Holtham. Nawr, ar ôl cytuno fframwaith cyllid gyda Llywodraeth Cymru, mae’r Athro Holtham wedi disgrifio’r sefyllfa fel a very fair settlement. Mae pethau wedi symud ymlaen lot. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi croesawu’r fframwaith cyllid. Maen nhw’n dweud nawr am long-term fair funding i Gymru. Mae hwn wedi digwydd o dan y Llywodraeth Geidwadol. Rwyf yn falch iawn i glywed pethau fel hyn.
Pwynt arall sydd yn bwysig i mi: yn y Gyllideb roedd y Canghellor yn sôn am gryfhau’r economi ymhob rhan o Gymru. Siaradodd am y Cardiff city deal, y Swansea city deal, am y north Wales growth deal, ac hefyd, am y tro cyntaf, siaradodd am mid Wales growth deal. Mae hyn yn bwysig dros ben; yn hynod o bwysig i mi. Mae’n rhy gynnar i wybod yn union beth mae mid Wales growth deal yn golygu. Mae’n bwysig iawn bod pobl leol yn y canolbarth yn rhoi syniadau. Dyma pam rwyf yn siarad gyda phobl yn sir Faldwyn a thu allan i sir Faldwyn hefyd, yn y canolbarth, a phob corff yn y lle, i gynnig syniadau.
Rwyf wedi bod yn siarad gyda’r Aelod dros Geredigion. Gobeithio byddwn yn gallu cymryd mantais o ymchwil amaethyddol ac amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth a hefyd, gweithio gyda smallholdings ym Mhowys.
(Translation). Thank you, Mr Hanson, for giving me the opportunity to contribute to this historic debate through the medium of Welsh. It is the first time we have been able to use the Welsh language in Westminster. It has not happened before, which is why the debate is historic.
Personally speaking, it is significant for me, too, to be able to make my contribution in Welsh. When I was elected to the National Assembly for Wales in Cardiff bay in 1999, I could not speak a word of Welsh. However, since then, I have done my very best to learn the language—the language of heaven. All of my ancestors were first-language Welsh speakers. My parents also spoke Welsh as a first language, but after getting married they moved to a part of Montgomeryshire where nobody spoke Welsh. More significantly, the Welsh language was seen as a failed language; nobody wanted to speak the Welsh language. Things have changed now, but many people have forgotten the situation of many years ago.
I did not hear my father or mother speak Welsh at all, so my five sisters and I could not speak a word of Welsh. I could not do so until I became an Assembly Member. Having been elected to the Assembly, where a great deal of Welsh is spoken, including in the Chamber, I decided that I needed to learn the Welsh language. So, as you can see, Mr Hanson, this historic debate is particularly important to me on a personal level, as well as being historic in terms of events in Westminster.
This Welsh Grand Committee debate gives us an opportunity to consider the Budget and its implications for Wales. In my view—I know that not everyone will agree—it has been very good news for Wales. The Budget increased the funding available to the Welsh Government to spend on public services in Wales. The spending power increased by £12 billion, which is significant. When I was an Assembly Member there was a great deal of debate about the Barnett formula and the Barnett floor, too. There were demands for more funding and more spending powers for Wales.
At the time, Professor Gerry Holtham was seen as an expert on all of these issues, and every time we discussed the Budget in the National Assembly people would quote Professor Holtham. Now, having agreed a financial framework with the Welsh Government, Professor Holtham has described the situation as a very fair settlement, so things have moved on a great deal, and the Welsh Government have also welcomed the financial framework. They see it as long-term fair funding for Wales, and that has happened under a Conservative Government. I am particularly pleased to hear such comments.
The other point that is important to me is that in the Budget the Chancellor spoke about strengthening the economy in all parts of Wales. He spoke about the Cardiff city deal and the city deal in Swansea. He also talked about the north Wales growth deal and, for the first time, he mentioned a mid-Wales growth deal, which is hugely important for me. It is too early to know exactly what a mid-Wales growth deal will mean, but it is important that local people in mid-Wales bring their ideas forward. When I speak to people in my constituency and outside my constituency in mid-Wales, I will encourage everyone and all the organisations involved to bring forward their ideas, and hopefully we will be able to take advantage.
I have spoken to the hon. Member for Ceredigion. I hope we will be able to take full advantage of the environmental and agricultural research undertaken at Aberystwyth University and also work with the smallholdings in Powys.
Mae yna lawer iawn o bobl yn y gogledd eisiau cymryd rhan yn y ddêl ar gyfer twf. Roeddwn mewn cyfarfod diweddar gyda’r brifysgol ym Mangor. Mae ganddynt syniadau da iawn ond fawr o syniad sut i ymgeisio. Mae’r manylion ar sut ddylai’r cynllun yma weithio yn brin iawn. Onid yw hynny’n neges i’r Llywodraeth y dylsant ddarparu’r wybodaeth yma rwan am fod syniadau da allan yno yn barod i fynd?
(Translation) A great many people in north Wales also want to take part in the growth deal. However, having had a recent meeting with Bangor University, where there are very good ideas, I know that it does not really know how to apply the details, which are scarce, of how the deal will work. That is a message for the Government that they should provide that information now, because there are good ideas out there ready to go.
Fel ddywedais i, yn y canolbarth, mae’n amser cynnar iawn. Mae cyfrifoldeb arnom ni i gynnig syniadau. Rwyf yn credu bydd Ysgrifennydd Cymru yn barod i dderbyn syniadau. Mae’n gyfle i gryfhau’r economi yng ngogledd Cymru ac yn y canolbarth. Mae’n bwysig hefyd i gryfhau’r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y canolbarth a chanolbarth Lloegr. Mae’n bwysig cysylltu gyda’r farchnad yng nghanolbarth Lloegr. Mae’r Newtown bypass yn agor eleni; mae hyn yn bwysig. Mae pont newydd yn symud ymlaen ym Machynlleth, dros y Dyfi.
Y cam nesaf yw cael ffordd newydd rhwng Trallwng a ffin Lloegr yn sir Amwythig. Mae’n bwysig cael cysylltiad rhwng y canolbarth a Lloegr. Mae’r farchnad yn bwysig i ni ac rwyf eisiau gweld y growth deal yn y canolbarth yn canolbwyntio ar hynny. Hefyd, wythnos nesaf, mae £7 miliwn yn mynd i fewn i’r rheilffordd rhwng y Drenewydd ac Aberystwyth. Mae lot yn digwydd. Mae cysylltiadau trafnidiaeth yn bwysig iawn os ydym am weld y canolbarth yn symud ymlaen.
Mae prosiect Pumlumon yn bwysig hefyd. Dydy pobl ddim yn gwybod lot am y prosiect, ond y cynllun yw i dalu ffermwyr â dros 100,000 erw—rhaid i mi edrych i weld os ydw i’n dweud yr un peth yn Gymraeg—i stopio llifogydd yn Lloegr. Mae hyn yn bwysig iawn a bydd yn dda i ffermwyr yn y canolbarth. Bydd yn help mawr i arbed gwario miliynau i stopio llifogydd yn Lloegr. Mae growth deal yn y canolbarth yn beth da ar gyfer hyn. Mae camlas Mynwy yn bwysig, yn mynd dros y ffin, a gobeithio gall y buddsoddiad ynddo fod yn rhan o’r mid-Wales growth deal hefyd.
Rwyf wedi bod yn Aelod yn y Cynulliad ac yn Aelod yma yn San Steffan, ac rwy’n deall bod angen i’r ddwy Lywodraeth weithio gyda’i gilydd i gael yr elw mwyaf. Mae hyn yn digwydd a dyma pam rwy’n optimistig ac yn credu bydd hyn yn parhau trwy berthynas bositif. Dwi ddim yn darllen beth sydd yn y cyfryngau. Mae’r ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd ac mae hyn yn bwysig.
I orffen, rwyf eisiau mynd yn ôl at yr iaith Gymraeg a sut mae gwleidyddiaeth a materion cyhoeddus yn cael eu darlledu yng Nghymru. Dylai beth sy’n digwydd yng Nghymru—yn y Cynulliad Cenedlaethol—gael mwy o sylw yn y cyfryngau yng Nghymru. Rydym ni i gyd yma yn dibynnu ar ddarlledu yng Nghymru i gysylltu â phobl Cymru i ddweud wrthyn nhw beth rydym ni’n gwneud yma. Rwy’n dibynnu ar y BBC, S4C a ITV i wneud hyn.
Roedd yn grêt gweld Radio Cymru 2 yn dechrau mis diwethaf. Mae’n bwysig iawn i Gymru a dwi’n llongyfarch Betsan Powys ar ei gwaith. Heddiw, rwyf eisiau dweud fy mod yn siomedig ar ôl clywed bod “O’r Senedd” yn gorffen—mae pawb yn adnabod y rhaglen—a dydw i ddim yn gwybod beth sydd yn dod yn ei lle. Dydw i ddim yn meddwl mai rhaglen sy’n delio â gwleidyddiaeth sy’n dod yn ei lle. Rwyf hefyd yn cofio “CF99”. Os rydym am gysylltu â phobl Cymru, mae rhaglenni fel “O’r Senedd” yn bwysig iawn i ni. Dydw i ddim eisiau gweld yn lle “O’r Senedd” rhyw fath o adloniant; rwyf eisiau gweld y cyfryngau yng Nghymru yn delio â gwleidyddiaeth yma yn San Steffan mewn ffordd ddifrifol. Yr unig ffordd rydym ni yn gallu cysylltu gyda’r bobl yng Nghymru yw trwy’r cyfryngau. Gobeithio, yn lle “O’r Senedd”, bydd rhyw fath o raglen sy’n delio â’r pynciau pwysig i Gymru mewn ffordd ddifrifol.
(Translation) As I said, in mid-Wales it is at a very early stage. There is a responsibility on all of us to bring forward ideas. I think the Secretary of State for Wales is willing to take on board these ideas, and that is where we are at the moment. I see an opportunity to strengthen the economy of north and mid-Wales. I also believe it is important to strengthen the transport links between mid-Wales and the midlands. It is hugely important that we can link up with the markets in the midlands. The Newtown bypass will open this year. That is important, and the new bridge over the Dyfi in Machynlleth is making progress.
The next step is to have a new road between Welshpool and the border with England in Shrewsbury. It is important to have those connections with England. The market is hugely important to us, and I want to see the growth deal in mid Wales focusing on that issue. Also, next week, £7 million will be invested in the railway between Newtown and Aberystwyth.
Also, next week, £7 million will be invested in the railway between Newtown and Aberystwyth. There is a great deal happening. Transport links are hugely important if mid-Wales is to make progress.
The Pumlumon project is also important. I do not know too much about it yet, but as I understand it the plan is to pay farmers—those with 100,000 acres, I think, but I will have to check that figure—to stop run-off from their land. That is hugely important. It will be positive for farmers in mid-Wales, and it will be of huge assistance in saving millions of pounds on flood prevention work in England. The mid-Wales growth deal is very positive. The Montgomery canal is also important, and I hope that investment in that is part of the mid-Wales growth deal, too.
Having been a Member of the Assembly and a Member here in Westminster, I have come to understand that the two Governments must work together if we are to achieve maximum benefit. I think that is happening, so I am optimistic. I think a positive relationship can develop between the Governments. I do not read about what is happening in the media. The Governments are working together, and that is hugely important.
To conclude, I want to move back to the issue of the Welsh language and how politics and public affairs are covered in Wales. What happens in Wales—and in the National Assembly—should get more coverage in the media in Wales. We are all reliant on broadcasters in Wales to connect with the people of Wales and inform them about what is happening here. That is hugely important. I think of the role of the BBC, S4C and ITV in delivering those messages.
It was wonderful to see Radio Cymru 2, a second Welsh-language radio channel, established last month. That is hugely important for Wales, and I congratulate Betsan Powys for the work that she has done. However, I was a little disappointed to hear that the S4C programme “O’r Senedd” is to cease broadcasting. I am not sure what is going to replace it, but I do not think that it will be a programme dealing with politics. I remember when “CF99” was on S4C. If we are to connect with the people of Wales, programmes such as “O’r Senedd” are hugely important. I raise that point because I do not want to see some sort of entertainment provided in place of “O’r Senedd”. I want to see the media in Wales cover politics here in Westminster and at the Assembly seriously. The only way that we can connect to the people of Wales is through the media. I hope that “O’r Senedd” will be replaced by some sort of programme that covers the important issues of the day for Wales.