(2 years, 11 months ago)
General CommitteesDiolch yn fawr, Mr Davies, am y cyfle i siarad heddiw, ac am y cyfle i siarad yn Gymraeg.
Rydyn ni’n trafod cwestiwn yr Undeb Prydeinig, ac fel pob undeb arall, mae’r nerth yn dod o dderbyn a pharchu gwahaniaethau, gan gynnwys iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth. Mae’r cyfarfod Pwyllgor heddiw yn ddigwyddiad amserol i ni, gyda’r cytundeb cydweithio a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng y blaid Lafur a Phlaid Cymru i ddod â pholisïau radical i fodolaeth yng Nghymru, gan roi buddiannau pobl Cymru o flaen llinellau plaid cul. Roeddem yn gallu gwneud hyn yng Nghymru, a’i wneud mewn ffordd ystyrlon, oherwydd bod ein harweinwyr gwleidyddol yn deall eu bod wedi’u hethol i wasanaethu buddiannau’r bobl y maent yn eu cynrychioli ac nid am unrhyw reswm arall.
Hefyd, ein hanes sydd wedi’n gwneud ni fel yr ydym. Mae gan Gymru draddodiad o hanes radical, o godi’r faner goch gyntaf ar gomin Hirwaun, drws nesaf i’r pentref lle rwyf i’n byw, Penderyn, yn ystod oes y Siartwyr, hyd at sefydlu’r gwasanaeth iechyd gwladol. Y traddodiad hwn sydd wedi ysbrydoli Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau o safon mwy uchelgeisiol na’i chymar yn San Steffan: er enghraifft, diogelu’r gwasanaeth iechyd gwladol fel gwasanaeth mewn eiddo cyhoeddus, ac ein hymateb gofalus yn y Senedd i covid.
Senedd ddatganoledig Cymru oedd y gyntaf yn y byd i basio argyfwng hinsawdd. Yn ddiweddar, mae’r Senedd wedi sefydlu Gweinidogaeth ar newid yr hinsawdd. Roedden ni’n gyntaf gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn ysbryd y ddeddfwriaeth honno, pasiodd Llywodraeth Cymru Fesur yn caniatáu i bobl 16 ac 17 mlwydd oed bleidleisio yn etholiadau Cymru.
Mae Cymru hefyd yn helpu i arwain y ffordd o ran datblygu economi gynhwysol, sylfaenol, yn bennaf gan ddefnyddio dull partneriaeth gymdeithasol i hyrwyddo gwaith teg. Mae hyn wedi’i wneud yn erbyn cefndir o ddiffyg cyllid digonol. Mae dros 10 mlynedd o lymder creulon wedi tynnu £1.6 biliwn o gyllidebau cynghorau Cymru, ac mae fy awdurdod lleol, Rhondda Cynon Taf, wedi colli dros £90 miliwn. Nid yw fformiwla Barnett ar gyfer cyfrifo cyllid Cymru yn addas, nac yn ddigonol, i ddiwallu anghenion Cymru. Felly, rydyn ni’n dal i ddioddef y problemau tlodi, amddifadedd ac anghydraddoldeb y mae gweddill y Deyrnas Unedig yn eu hwynebu.
Bydd yr argyfwng costau byw yr ydym i gyd yn ei wynebu yn ergyd drom i bobl Cymru. Gwyddom oll eisoes am bobl yn ein hetholaeth sy’n gorfod dewis rhwng bwyta neu gynhesu. Bydd y sefyllfa yn galetach eleni wrth i realiti polisïau’r Torïaid, fel y toriadau lles, y costau tanwydd cynyddol, a’r cynnydd mewn yswiriant gwladol a ddaeth yn sgil y Llywodraeth Dorïaidd hon, ein taro. Nid yn unig nad yw’r Llywodraeth Dorïaidd hon yn poeni am neu’n deall anghenion pobl fel ein hetholwyr, maent yn rhoi’r gwaith da a wnaed hyd yma gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau a datblygu ein heconomi mewn perygl difrifol wrth iddynt symud i ganoli pŵer a thanseilio’r setliad datganoli. Amlygir hyn gan y Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac ar hyn o bryd, y gronfa codi’r gwastad, fel y’i gelwir. Ni fydd yn syndod bod y rhan fwyaf o’r cyllid lefelu wedi mynd i etholaethau a ddelir gan y Torïaid yng Nghymru. O’i gymharu â chyllid yr Undeb Ewropeaidd, roedd yn gyfraniad gwarthus.
(Translation) Thank you very much for the opportunity to speak, Mr Davies, and to do so in Welsh. We are here to discuss the question of the Union. Like all other unions, its strength comes from accepting and respecting differences, including in language, culture and politics. The Committee meeting is a timely event for us with the collaborative agreement announced between Plaid Cymru and Welsh Labour to bring radical policies into existence in Wales, putting the interests of the people of Wales before narrow party lines. We can do this in Wales, and in a meaningful manner, because our political leaders understand that they have been elected to serve the interests of the people they represent and not for any other reason.
Our history has made us as we are. Wales has a tradition of radical history, from raising the first red flag—on Hirwaun common, next to the village where I live now, Penderyn—during the time of the Chartists, to establishing the national health service. This tradition inspires the Welsh Government to develop policies with more ambitious standards than we see here in Westminster, including safeguarding the NHS as a public service; the Senedd’s careful response to covid.
The devolved Senedd in Wales was the first in the world to declare a climate emergency, and recently established a Ministry on climate change. The Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 was also a first. In the spirit of that legislation, the Welsh Government passed a Bill to permit 16 and 17-year-olds to vote in Welsh elections.
Wales is also helping to lead the way in developing an inclusive, foundational economy, predominantly using a social partnership approach to promote fair work. That has been done against the background of a lack of adequate funding. More than 10 years of cruel poverty has pulled £1.6 billion out of Welsh council budgets, and my local authority, Rhondda Cynon Taf, has lost over £90 million. The Barnett formula is not appropriate or adequate to meet the needs of Wales. We therefore continue to suffer the problems of poverty, deprivation and inequality that the rest of the United Kingdom faces.
The cost of living crisis that we all face will hit the people of Wales hard. We already know of people in our constituencies who have to choose between eating and heating, and the situation will be even harder this year as the reality of Tory policies, such as the welfare cuts, the increasing cost of fuel and the national insurance increase hit us. Not only do the Tory Government not care about and fail to understand our constituents’ needs, but they have put the good work of the Welsh Government to safeguard services and develop our economy in serious jeopardy as they move to centralise power and undermine the devolved settlement. That is manifest in the United Kingdom Internal Market Act 2020 and also in the so-called levelling-up fund. It is no surprise that the majority of the levelling-up funding has gone to constituencies held by Tory Members in Wales. Compared with European funding, it is a shameful contribution.