Autumn Budget as it Relates to Wales (Morning sitting) Debate

Full Debate: Read Full Debate
Department: Wales Office
Kevin Brennan Portrait Kevin Brennan (Cardiff West) (Lab)
- Hansard - -

Mae’n bleser arbennig cael annerch yn iaith y nefoedd am y tro cyntaf yma yn San Steffan. Mae hyn wir yn achlysur hanesyddol, gan ei fod nawr yn bosib cymryd rhan mewn dadl mewn iaith heblaw Saesneg am y tro cyntaf am 800 mlynedd. Mae hyn yn gwbl briodol, achos siaradwyd Cymraeg ar draws Prydain ymhell cyn i Senedd San Steffan a’r Saesneg fodoli. Tu allan i Gymru, nid oes dealltwriaeth bod enwau dinasoedd mor bell i’r gogledd a Chaeredin a Glasgow yn dod o’r iaith Gymraeg yn wreiddiol.

Roeddwn i hefyd eisiau siarad yn y Gymraeg heddiw fel teyrnged i’r diweddar Rhodri Morgan, fy rhagflaenydd fel Aelod Seneddol dros Orllewin Caerdydd a chyn-Brif Weinidog Cymru. Dyma’r Uwch Bwyllgor Cymreig cyntaf ers ei farwolaeth sydyn mis Mai diwethaf. Yn y 1990au roedd Rhodri yn arloeswr, yn gwthio i newid y rheolau fel bod yr iaith Gymraeg yn gallu cael ei defnyddio pan oedd yr Uwch Bwyllgor Cymreig yn cwrdd yng Nghymru. Petai ef yma heddiw, rydw i’n siwr y byddai ganddo ambell hanesyn difyr i’w ddweud wrthym yn y ddwy iaith.

Mae’r ddadl heddiw ynglyn â Chyllideb hydref diwethaf a’i heffaith ar Gymru. Wrth gwrs, mae ychydig o arian ychwanegol i Gymru o ganlyniad i’r fformiwla Barnett, ond y broblem sylfaenol yw’r diffug gweledigaeth pan mae angen uchelgais. Mae arnaf ofn mai dyma ganlyniad cael Prif Weinidog gwan a Changhellor sydd gyda chymaint o gyffro â thïm rygbi Lloegr ar ei waethaf. Rydw i’n gobeithio na fyddai’n dyfaru y geiriau yna ar ôl y gêm yn Twickenham dydd Sadwrn yma.

Cyn Cyllideb yr hydref, ysgrifennais at y Canghellor ynglyn â dyfodol ariannol S4C. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae S4C wedi wynebu torriadau ciaidd gan y Llywodraeth hon. Byddai mwy o dorriadau yn peryglu safon y gwasanaeth. Ysgrifennais at y Canghellor ar ôl clywed y gall S4C wynebu torriad o £9 miliwn dros y tair mlynedd nesaf. Gofynnais am addewid na fyddai'r fath doriad yn digwydd. Yn eu hymateb, dywedodd y Llywodraeth eu bod, a dwi'n dyfynnu

“wedi ymrwymo i ddyfodol darlledu Cymraeg ac i gefnogi'r gwasanaeth gwerthfawr mae S4C yn darparu.”

Er hyn, bron i ddeufis ar ôl y llythyr gan y Trysorlys, a bron i ddwy flynedd ers datgan yr adroddiad annibynol am S4C, mae’r adolygiad dal heb gael ei gyhoeddi. Mae hyn yn annerbyniol.

Rwyf yn galw ar y Llywodraeth unwaith eto i gyhoeddi'r adolygiad annibynol ac i gynnig cyllid teg i S4C. Mae arnaf ofn, Mr Owen, bod y celfyddydau yn cael eu gweld fel rhywbeth hawdd i'w torri. Mae'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn ceisio amddiffyn Cymru rhag effeithiau llymder Torïaidd. Fodd bynnag, heb ddigon o arian, mae hon yn dasg anodd iawn. Mae S4C yn allweddol i'r dyfodol ac i gyrraedd y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae blynyddoedd o lymder wedi methu. Roedd pwrpas i fod i’r toriadau: i waredu'r diffyg ariannol erbyn 2015. Dywedodd y Llywodraeth y buasai’r llymder werth y boen. Buasai plentyn wedi ei eni yng Nghymru yn 2010 wedi gallu mynd i’r ysgol, gorffen yn y brifysgol a dechrau ei deulu ei hun erbyn i’r Llywodraeth gwblhau hyn. Dywedodd y Llywodraeth y buasai’r ddyled wedi mynd cyn i’r plentyn hwnnw ddechrau’r ysgol gynradd. Mae hyn yn fethiant llwyr oherwydd uniongrededd ariannol hen ffasiwn. Nid gormod o wario ar ysgolion ac ysbytai Cymru achosodd ein problemau economaidd yn 2010. Cawson nhw eu hachosi gan gamblo anghyfrifol gan fancwyr barus. Nid yr ateb oedd i dorri gwariant mewn ffordd mor giaidd fel ei fod yn anafu'r economi, ond i fuddsoddi—mewn ffyrdd, tai, ysgolion, colegau, prifysgolion, ysbytai, isadeiledd digidol ac egni glan—i greu cyfoeth yn y dyfodol

Felly, edrychwn mewn gobaith—os nad mewn disgwyliad —i’r Canghellor golli ei lysenw Spreadsheet Phil ac i ddatgan cynllun o adferiad cenedlaethol a fyddai’n helpu adeiladu Cymru’r dyfodol mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a busnesau, llywodraeth leol a chymunedau ac yn y blaen. Efallai byddai'n dangos hyder drwy gefnogi prosiect y morlyn llanw yn Abertawe, neu roi gyllid ychwanegol i drydaneiddio'r brif linell drên i Abertawe, neu helpu i greu'r metro yn Nghaerdydd a'r Cymoedd, neu helpu i adeiladu'r tai sydd eu hangen i greu swyddi a chartrefi. Yn lle, yr hyn a gawsom oedd tincran gyda'r ymylon. Mae Cymru angen—ac yn haeddu —gwell gan y Llywodraeth hon a'r Canghellor hwn.

Rydym nawr yn gwynebu perygl Brexit, ac mae’n ddrwg gen i bod Cymru wedi pleidleisio dros adael, er na wnaeth Caerdydd hynny. Dyma fy apêl at Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw: peidiwch a bodloni â bod yn llefarydd dros uniongrededd ariannol; peidiwch a bodloni ag eistedd wrth fwrdd y Cabinet yn mwynhau’r olygfa. Brwydrwch, brwydrwch a brwydrwch unwaith eto dros fuddsoddiad yng Nghymru a dyfodol teg i bawb yng Nghymru.

(Translation) It is a pleasure, Mr Owen, to be able to address you in the language of heaven here in Westminster for the first time. This truly is a historic occasion as it is possible to speak in a debate in a language other than English for the first time in 800 years. This is entirely appropriate, since Welsh was spoken across Britain long before the Westminster Parliament or the English language existed. Outside Wales, it is not widely understood that the names of cities far north such as Edinburgh and Glasgow come from the Welsh language originally.

I also wanted to speak in Welsh today as a tribute to the late Rhodri Morgan, who was my predecessor as MP for Cardiff West and the former First Minister of Wales. This is the first Welsh Grand Committee meeting since his sudden death last May. In the ’90s, Rhodri was a pioneer in pushing to change the rules so that the Welsh language could be used when the Welsh Grand Committee met in Wales. I am sure that if he were here today he would have several amusing anecdotes to tell us in both languages.

This debate relates to last autumn’s Budget and its impact on Wales. There is some extra money for Wales as a result of the Barnett formula, but the fundamental problem is its lack of vision at a time when ambition is needed. That is the result of having a weak Prime Minister and a Chancellor with all the excitement of the English rugby team—I hope I will not regret that comment after next Saturday’s match at Twickenham.

Before the autumn Budget I wrote to the Chancellor regarding the future funding of S4C. Over recent years, S4C has faced brutal cuts from this Government, and any further cuts would endanger the quality of the service. I wrote to the Chancellor expressing concern after hearing that S4C could face cuts of up to £9 million over the next three years. I asked for a promise that no such cut would take place.

In their response, the Government said that they were

“committed to the future of Welsh language broadcasting and supporting the valuable service S4C provides.

However, almost two months since that letter from the Treasury, and more than two years since the independent review of S4C was originally announced, the review has still not been published. That is unacceptable.

Today, I yet again call on the Government to publish the independent review and to offer S4C fair funding. I am afraid that, all too often, culture and the arts is seen as cuttable. The Welsh Labour Government are trying to shield Wales from the effects of Tory austerity. However, without enough money, that is a very difficult task. S4C is crucial to the future and to reaching the goal of 1 million Welsh speakers by 2050.

Years of austerity have failed. All of the cuts were meant to be for a purpose—to pay off the deficit by 2015. The Government said that the cuts would be worth the pain. A child born in Wales in 2010 could have gone to school, finished university and started a family of their own by the time the Government achieve that. They said the debt would be gone before that child started infant school. That is a complete failure, and it is due to old-fashioned financial orthodoxy.

The fact is that it was not too much spending on Welsh schools or Welsh hospitals that caused the economic problems of 2010. Rather, they were caused by irresponsible gambling by greedy bankers. The answer was not to cut spending so savagely as to hurt the economy, but rather to invest for wealth creation in the future—in roads and rail, housing, schools, colleges, universities, hospitals, digital infrastructure and clean energy. We therefore looked hopefully, if not in expectation, for the Chancellor to lose his “Spreadsheet Phil” soubriquet and to announce a plan for national renewal that would help to build the Wales of the future, in partnership with the Welsh Government and business, local government and communities and so forth.

Perhaps, we thought, the Chancellor would show confidence by announcing his support for the Swansea Bay tidal lagoon project, or by giving additional funding to electrify the main line to Swansea, or by helping to create the metro in Cardiff and the valleys, or by helping to build the houses we need to bring jobs and homes. Instead, we got tinkering around the edges.

Wales needs and deserves better from the Government and from the Chancellor. We now face the danger of Brexit, which I am sorry to say that a majority in Wales voted for, although not in Cardiff. My appeal to the Secretary of State for Wales is to not be content to be a mouthpiece for economic orthodoxy and to not be content to sit at the Cabinet table, admiring the view. Rather, fight, fight, and fight again for investment in Wales and for a fair future for everyone in Wales.

--- Later in debate ---
David T C Davies Portrait David T. C. Davies
- Hansard - - - Excerpts

May I take the unusual step of also praising Ken Skates?

Kevin Brennan Portrait Kevin Brennan
- Hansard - -

Are you trying to finish him off?

David T C Davies Portrait David T. C. Davies
- Hansard - - - Excerpts

I very much hope that is not held against him but I put on record that he is a man of principle.