Strengthening the Union as it Relates to Wales (First sitting) Debate

Full Debate: Read Full Debate
Department: Wales Office
Tuesday 18th January 2022

(2 years, 10 months ago)

General Committees
Read Full debate Read Hansard Text Read Debate Ministerial Extracts
Ben Lake Portrait Ben Lake
- Hansard - - - Excerpts

Thank you, Mr Davies. I am grateful to the hon. Member for Bridgend for that intervention. I acknowledge the truth of what he is saying, in that a number of the Wales Acts have been introduced in the last 10 years under Conservative Administrations, although I would point out that we still have an asymmetric devolution settlement in which Wales does not enjoy the same level of autonomy and discretion over policy areas that Northern Ireland and Scotland take for granted. Indeed, even certain city regions in England have greater discretion and influence over certain policy areas than the Welsh Government, such as policing. I will come on to that point in a moment.

Y meysydd polisi sy’n amlygu canlyniadau anffodus yr ymagwedd hon fwyaf yw polisi isadeiledd trafnidiaeth a llywodraethiant Ystad y Goron yng Nghymru. Os trown ni’n gyntaf at ein rheilffyrdd, mae’n ffaith bod nifer o aelodau ar ddwy ochr y Pwyllgor wedi crybwyll yn y gorffennol bod rheilffyrdd Cymru yn cael eu hesgeuluso’n ddifrifol dan y setliad presennol a bod gwaith adnewyddu a gwella’r rhwydwaith yn dioddef o danariannu sylweddol. Mae gan Gymru tua 11% o rwydwaith rheilffyrdd y Deyrnas Unedig, ond ar gyfartaledd mae’n derbyn dim ond tua 6% o wariant Prydeinig ar weithrediadau, gwaith cynnal a chadw ac, yn bwysig iawn, gwaith adnewyddu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrifo y bydd rheilffyrdd yng Nghymru yn dioddef tanfuddsoddiad o tua £2.9 biliwn yn y cyfnod rhwng 2001 a 2029 am y rheswm hynny.

Nid yw’r ffigurau hyn yn syndod, wrth gwrs, os cofiwn ni fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i fuddsoddi jyst £350 miliwn yng Nghymru yn y cyfnod hwn ar welliannau o gymharu â thua £50 biliwn ledled y DU. Yn wir, bu Llywodraeth Cymru yn go blwmp ac yn blaen am y sefyllfa, yn dadlau bod methiannau’r Undeb yn y maes hwn wedi arwain at ddibrisio a thanfuddsoddi yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru

“o gymharu â’r rhwydwaith yn Lloegr.”

Mae hyn yn amharu nid yn unig ar yr economi ond hefyd ar ein gallu i ddatgarboneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth.

Efallai y cawn yr enghraifft gliriaf o fethiant, ac yn wir ffolineb, y setliad presennol yn HS2, prosiect fydd, yn ôl un adroddiad gan Lywodraeth Prydain—ac rwy’n eithaf siŵr mai’r Trysorlys ei hun wnaeth gomisiynu adroddiad gan KPMG—yn golygu y byddai Cymru’n gweld colled o tua £150 miliwn y flwyddyn mewn allbwn economaidd. Ond er gwaetha’r ffaith yma, mae’r Trysorlys yn parhau i adnabod y prosiect fel un sydd o fudd i Gymru a Lloegr. O ganlyniad i hyn, mae Cymru mewn perygl o golli rhwng £4 biliwn a £5 biliwn mewn buddsoddiad yn yr isadeiledd trafnidiaeth, a hynny oherwydd yr ymdriniaeth a gaiff gan y Trysorlys.

(Translation) The main policy areas that manifest the unfortunate results of this attitude are transport infrastructure and the Crown Estate in Wales. A number of Members on both sides of the Committee have suggested that Welsh railways are being seriously neglected by the current settlement and that refurbishment work really lacks funding. Wales has around 11% of the UK rail network but on average receives only about 6% of the current expenditure on maintenance and, importantly, refurbishment and renewal work. The Welsh Government have estimated that railways in Wales will suffer an underinvestment of about £2.9 billion between 2001 and 2029 for that reason.

Those figures are no surprise if we bear in mind that the UK Government committed to investing around £350 million in Wales in that period on improvements, compared with around £50 billion across the United Kingdom. The Welsh Government were quite clear about the situation, arguing that failings of the Union in that regard had led to the devaluing of and underinvestment in the Welsh rail network

“compared to the network in England.”

That impairs not only the economy but our ability to decarbonise our transport network.

A clear example of the failure, and indeed stupidity, of the current settlement is the HS2 project. The UK Government said—I am sure that it was the Treasury that commissioned a KPMG report—that Wales could see a loss of £150 million a year in economic output. But despite that, the Treasury continues to recognise the project as one that is beneficial to Wales and England. Wales is in danger of losing between £4 billion and £5 billion in investment in transport infrastructure as a result of the treatment that it receives from the Treasury.

David T C Davies Portrait The Parliamentary Under-Secretary of State for Wales (David T. C. Davies)
- Hansard - -

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod anrhydeddus am ildio. Ydy e’n derbyn bod Network Rail wedi dweud bod Cymru, yn enwedig gogledd Cymru, yn mynd i elwa o’r ffaith bod ni’n mynd i gael cysylltiadau gwell gyda Llundain oherwydd HS2?

(Translation) I am grateful to the hon. Gentleman for giving way. Does he accept that Network Rail has said that Wales—particularly north Wales—was going to benefit from better connections with London as a result of HS2.

None Portrait The Chair
- Hansard -

Order. May I ask people to speak up? Apparently, the translators could not hear what you said, David. Could you repeat it and speak up?

David T C Davies Portrait David T. C. Davies
- Hansard - -

Sorry, Mr Davies; that is not normally a problem I suffer from. Network Rail has said to us that it believes north Wales will benefit greatly from the better connections with London that will come about as a result of HS2.

Ben Lake Portrait Ben Lake
- Hansard - - - Excerpts

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Gweinidog am ei ymyriad. Mae Plaid Cymru wedi cydnabod o’r cychwyn cyntaf y byddai rhai o welliannau HS2—pe baen nhw’n cael eu gwireddu yn llawn, wrth gwrs—yn fuddiol i ogledd Cymru. Ond os edrychwn ni at Gymru yn ei chyfanrwydd, mae’r adroddiad a gomisiynwyd gan y Trysorlys ei hunan yn dangos y bydd colled net o £150 miliwn y flwyddyn mewn allbwn economaidd. Mae’n rhaid i ni ystyried yr effaith mae hyn yn ei gael a bod y Trysorlys yn gostwng y ffactor cymaroldeb a’r gwariant ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth yn y datganiad cyllid.

Dyna pam rwyf am annog Aelodau yma heddiw i wrando ar argymhelliad y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai HS2 cael ei adnabod fel prosiect sy’n buddio Lloegr yn unig. Fe fyddwn i’n mynd yn ymhellach, ac annog pobl i gefnogi datganoli cyfrifoldeb dros y rheilffyrdd i Senedd Cymru. Yn wir, yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, pe byddai’r cyfrifoldeb hwn eisoes wedi ei ddatganoli i Gymru, byddai buddsoddiad ychwanegol o hanner biliwn o bunnoedd wedi bod rhwng 2011 a 2020.

Enghraifft arall o ddiffyg yn y setliad presennol yw triniaeth yr Undeb o Ystad y Goron yng Nghymru. Er gwaetha’r ffaith y datganolwyd rheolaeth Ystad y Goron i’r Alban yn 2017, mae San Steffan yn cadw rheolaeth dros yr ystad yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod refeniw o adnoddau naturiol Cymru yn cael ei drosglwyddo i’r Trysorlys yn hytrach nag aros yn y cymunedau lle cânt eu cynhyrchu. Ddoe, fe welon ni bod Ystad y Goron yr Alban wedi cwblhau ei arwerthiant diweddaraf o hawliau gwely’r môr i ddatblygwyr ynni gwynt. Trwy 17 o brosiectau, mae’r Alban wedi sicrhau bron i £700 miliwn ac wedi denu consortiwm byd-eang o ddatblygwyr i fuddsoddi ymhellach yng nghadwyn gyflenwi yr Alban. Er bod ein hadnoddau adnewyddadwy ni yn llai yng Nghymru, dangosodd y rownd ddiweddaraf o arwerthiannau yr hyn sy’n bosibl yn ein hadnodd ynni gwynt morol. Gwelwyd gwerth portffolio morol Cymreig Ystad y Goron yn cynyddu’n sylweddol o tua £50 miliwn i dros £500 miliwn.

Mae Plaid Cymru wedi gwthio ers tro am ddatganoli Ystad y Goron ac rwy’n falch cael dweud bod y cytundeb cydweithredu rydym wedi’i gyrraedd gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn cynnwys sicrhau ei ddatganoli fel prif amcan.

(Translation) I am grateful to the Minister for his intervention. Plaid Cymru has recognised from the very outset that HS2 improvements, if they were fully realised, would be beneficial to north Wales. For Wales in its entirety, however, the report commissioned by the Treasury shows that there will be a net loss of £150 million a year in economic output. We have to consider the impact all of that, and the fact that the Treasury depleted the comparative factor for Department for Transport expenditure in the finance statement.

That is why I encourage Members to listen to the Welsh Affairs Committee recommendations that HS2 be recognised as a project that benefits only England. I would go a step further and encourage people to support the devolution of responsibility for the railways to the Senedd. According to the Wales Governance Centre, if that responsibility had already been devolved to Wales, there would have been additional investment of half a billion pounds between 2011 and 2020.

Another flaw in the current settlement is the treatment in the Union of the Crown Estate in Wales. Despite the fact that control of the Crown Estate was devolved to Scotland in 2017, Westminster retains control of the Crown Estate in Wales, meaning that revenue from natural resources in Wales is transferred to the Treasury rather than remaining in Wales. Yesterday, the Crown Estate in Scotland completed its latest sale, with 17 projects that will bring in £700 million, and attracted a global consortium of investors to invest further in supply in Scotland. Even though our renewable resources are fewer in Wales, that latest round of sales shows what is possible in our marine energy. Welsh Crown Estate marine energy increased in value from £50 million to more than £500 million.

Plaid Cymru has pushed for some time for the devolution of the Crown Estate, and I am pleased to say that the agreement we have reached with the Labour Welsh Government includes devolution as one of its main objectives.

--- Later in debate ---
Beth Winter Portrait Beth Winter
- Hansard - - - Excerpts

I disagree, sorry. All the local elected representatives are clear about the reduction in funding and the terrible impact that that has had on our constituents. If the Government looked at the research, it will confirm what I say.

Felly nid yn unig y mae’r Llywodraeth hon yn benderfynol o anwybyddu a chael gwared ar Lywodraethau datganoledig, mae’n benderfynol o danseilio ein hawliau democrataidd yn llwyr. Rydyn ni ar bwynt peryglus, yn fy marn i, o ran democratiaeth a datganoli. Nid yw diwygio cyfansoddiadol a datganoli yn faterion anghysbell, ymylol. Mae arnom angen system lle mae’r pedair gwlad yn cael eu trin yn gyfartal, nid system o’r top i lawr fel yr hyn sydd yna ar hyn o bryd. Dylai pob rhan o’r Deyrnas Unedig gael ei hariannu’n briodol ac yn deg, heb fod angen bowlen gardota pryd bynnag y bydd anghenion ychwanegol yn codi.  

Dylid gwneud penderfyniadau gwleidyddol a gwariant mor agos â phosibl at y bobl y maent yn effeithio arnynt. Ni allwn ganiatáu i’n pwerau gwario gael eu cymryd i reolaeth ganolog. Bydd yn atal Llywodraethau datganoledig a lleol rhag mynd ar lwybrau gwahanol economaidd sy’n bodloni amcanion polisi cyhoeddus rhanbarthau a chenhedloedd y Deyrnas Unedig. Mae angen i ni gydio yn y cyfle ac archwilio a thrafod opsiynau sydd o’n blaenau ac ystyried beth sydd orau i bobl Cymru.

Yn arbennig, mae angen i ni ymgysylltu â’r holl bobl a chymunedau lleol a’u cynnwys yn y drafodaeth a’r ddadl ar yr hyn y mae datganoli yn ei olygu iddynt hwy a’r hyn a welwn fel ein dyfodol. Bydd y comisiwn cyfansoddiadol a benodwyd yn ddiweddar yng Nghymru yn gyfle i godi proffil y ddadl hon a fydd yn cynnwys cymaint o bobl â phosibl.

(Translation) Not only are this Government intent on getting rid of devolved Governments, but they are determined to undermine our democratic rights. We are at a dangerous point for democracy and devolution. Constitutional changes and devolution are not distant matters. We need a system whereby all four countries are treated equally, not the top-down system that currently exists. All areas of the UK should be funded appropriately and fairly without having to beg when additional needs arise. Any political decisions on funding should be made as closely as possible to the people they affect. We cannot allow our spending powers to be taken under central control. That will prevent devolved and local governments from going down different economic paths to satisfy regional public policies and different nation policies.

We need to grab the opportunity to investigate and discuss the opportunities ahead and to consider what is best for the people of Wales. In particular, we need to interact with all our local communities and include them in the discussions and debates on what devolution means for them at the moment and what they see as our future. The constitutional commission that was recently appointed in Wales will be an opportunity to raise the profile of this debate and include as many people as possible.

David T C Davies Portrait David T. C. Davies
- Hansard - -

A yw’r Foneddiges anrhydeddus, fel aelod o’r blaid Lafur, yn gyfforddus gyda’r ffaith bod y comisiwn wedi dweud eu bod nhw’n mynd i edrych ar bob cwestiwn, gan gynnwys annibyniaeth? A yw hi’n hapus, fel cefnogwr yr Undeb, eu bod nhw’n mynd i ystyried hyn?

(Translation) Is the hon. Lady, as a member of the Labour party, comfortable that the commission has said that it is going to look at every question, including the question of independence? Is she happy that it will consider that?

Beth Winter Portrait Beth Winter
- Hansard - - - Excerpts

Diolch am y cwestiwn. Rwy’n hapus bod y comisiwn yn mynd i edrych ar bob posibilrwydd achos penderfyniad pobl Cymru yw e beth fydd y dyfodol i Gymru. Does dim problem gyda fi ynglŷn â hynny. Mae’r comisiwn ei hun yn cynnwys trawstoriad eang o gymdeithas Cymru gan gynnwys academyddion ac undebwyr llafur yn ogystal â gwleidyddion ac mae ganddynt feddwl agored, fel rydych chi wedi dweud, o ran beth y gallai’r argymhellion fod yn y dyfodol. Mae angen i ni drawsnewid y Deyrnas Unedig yn bartneriaeth wirfoddol o genhedloedd sy’n gyfartal ac yn ddemocrataidd lle mae pobl yn teimlo eu bod wir yn gallu cymryd rheolaeth yn ôl.

Os ydym yn wleidyddion er mwyn cynrychioli buddiannau mwyafrif y bobl, mae angen gweledigaeth o fath gwahanol o wlad: un sy’n seiliedig ar degwch, a rhoi pobl cyn elw, ac sy’n datganoli pŵer gan roi cyfoeth, cyfle a phŵer yn nwylo pobl a chymunedau lleol.

Mae’n hen bryd ein bod ni’n cael y drafodaeth hon am ddyfodol yr Undeb oherwydd mae’n ymwneud â democratiaeth, ynglŷn â sut yr ydym yn llunio ein dyfodol a chymryd rheolaeth yn ôl, rhoi llais i’r rhai yr ydym yno i’w cynrychioli a gweithio ochr yn ochr gydag eraill i greu dyfodol tecach, gwyrddach ledled y Deyrnas Unedig sy’n cydnabod ac yn parchu gwahaniaeth ac felly’n wirioneddol ddiwallu anghenion pobl Prydain.

(Translation): Thank you for the question. I am happy that the commission will look at every possibility, because it is the people of Wales who should decide the future of Wales, so I have no a problem with that.

The commission itself comprises a wide cross-section of Welsh society, including academics and labour unions as well as politicians, and they have an open mind as to what the recommendations could be in the future. We need to transform the UK into a voluntary partnership of nations that are equally democratic and where people feel that they can really take back control. If we are politicians to represent the interests of the majority of the people, there needs to be a different vision of a country, based on fairness, putting people before profit and devolving powers, thus giving wealth, opportunities and power into the hands of local communities.

It is high time we had this discussion about the future of the Union, because it is to do with democracy and how we form our future and take back control, to give voice to those we are here to represent and work hand in hand with others to create a fairer, greener future across the UK that recognises and respects differences and therefore satisfies the needs of the people of Britain.