(2 years, 11 months ago)
General CommitteesDiolch yn fawr iawn, Mr Davies. Mae’n bleser i wasanaethau dan eich cadeiryddiaeth chi a hefyd i wneud hynny drwy’r Gymraeg heddiw.
Rwy’n croesawu teitl y ddadl heddiw oherwydd ymddengys ei fod e’n cydnabod bod yna ddiffygion yn yr Undeb yn ei bresennol wedd a bod angen ei gryfhau er mwyn gwasanaethu pobl Cymru yn well. Felly mae gennym gyfle i drin a thrafod gwendidau polisïau’r Llywodraeth Brydeinig, ond hefyd efallai y cawn gyfle i ystyried y llwybrau sy’n agored i’n cenedl wrth i ni edrych tua’r dyfodol. Mae un llwybr wedi’i osod ar seiliau bregus y setliad cyfansoddiadol presennol, gwaddol cyfuniad anffodus o echdynnu economaidd ac ymyleiddio gwleidyddol. Mae’r llwybr yma’n gofyn i ni israddio ein hadnoddau a’n huchelgeisiau fel cenedl er mwyn gwasanaethu blaenoriaethau’r Undeb yn lle, a derbyn nad oes modd gwella ar y status quo.
Y llwybr arall, a bydd neb efallai’n cael syndod o glywed hyn, y llwybr yr hoffwn i ac—efallai bydd hyn yn syndod i rai pobl—yr hoffai nifer gynyddol o bobl ledled Cymru ei gymryd, yw’r llwybr sy’n arwain at annibyniaeth—llwybr llawn cyfle sy’n gofyn i ni ddyheu am ffyrdd tecach a mwy cynhwysol o lywodraethu, ond yn bwysicaf oll, yr her i gymryd y cyfrifoldeb dros wireddu hynny dros ein hunain.
Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar feysydd allweddol y dylai rhai sy’n credu yn yr Undeb weithredu arnynt ar fyrder os ydynt am gryfhau’r Undeb fel y mae teitl y ddadl yn crybwyll, oherwydd ar hyn o bryd, gwelwn eu bod nhw’n prysur danseilio’r berthynas rhwng cenhedloedd ynysoedd Prydain.
Yn fy marn i, mae problemau’r Undeb ar ei wedd bresennol yn deillio yn syml iawn o adeiladwaith diffygiol. Gwelwn Undeb rhwng sawl cenedl a rhanbarth yn cael ei ddominyddu gan un genedl ac un Senedd. Mae’r fath oruchafiaeth yn golygu y caiff hawliau a chyfrifoldebau’r cenhedloedd eraill eu hanwybyddu yn aml. Mae anghymesuredd y setliadau datganoli gwahanol ond yn gwaethygu’r sefyllfa, ond does dim awgrym bod gan y rhai sydd am weld dyfodol i’r Undeb unrhyw fwriad, na hyd yn oed awydd, i ddiwygio’r setliad cyfansoddiadol presennol er mwyn mynd i’r afael â’i ddiffygion.
Ystyriwch am eiliad sut y mae San Steffan wedi canoli grym yn gynyddol yn Whitehall ers Brexit, ac wedi ceisio uno gwledydd Prydain trwy orfodaeth yn hytrach na meithrin y cydweithrediad hynny rhwng ei Llywodraethau. Mae ond angen i ni edrych ar Ddeddf y Farchnad Fewnol 2020 neu’r Bil Rheoli Cymorthdaliadau am enghreifftiau o hyn. Mae’r ddau wedi cael eu gorfodi ar Gymru. Yn wir, wrth gyfeirio at yr ail fesur hwnnw, dywedodd Gweinidog Cyllid Llafur Cymru:
“Er gwaethaf awgrymiadau gan Lywodraeth y DU bod ymgysylltu manwl wedi’i gynnal, nid yw’r Bil ond yn adlewyrchy buddiannau cul Llywodraeth y DU.”
Pan wrthododd y Senedd y cynnig cydsyniad deddf-wriaethol, anwybyddodd San Steffan ei gwrthwynebiad yn llwyr. Felly yn hytrach na chydweithio, yr hyn a welwn yw deddfwriaeth sy’n tanseilio’n uniongyrchol alluoedd y gwledydd datganoledig i wella bywydau pobl yng Nghymru.
(Translation) It is a pleasure to serve under your chairmanship, Mr Davies, and to be able to do so through the medium of Welsh.
I welcome the title of today’s debate, because it appears to recognise that there are shortcomings in the Union in its current format and that there is a need for it to be strengthened in order to serve the people of Wales better. We have an opportunity to deal with the weaknesses of the UK Government’s policies, and perhaps an opportunity to consider the pathways that are open to our nation as we look to the future. One pathway is clearly set on the vulnerable foundations of the current constitutional settlement, with an unfortunate situation of political leadership. This pathway requires us to lower our ambitions, to follow the Union’s principles, and to accept that we cannot continue with the status quo.
The other pathway, which perhaps nobody will be surprised to hear is the pathway that I and an increasing number of people in Wales and the UK would like to take, leads towards independence, an opportunity to look for fairer and more comprehensive ways of governing and, most important, the challenge of taking responsibility for realising that for ourselves.
I will focus my comments on the key areas that those who believe in the Union should take strong action on as a matter of urgency if we are to strengthen the Union, as the title of the debate suggests, because at the moment, we can see that they are undermining the relationship between the nations of the British isles.
In my view, the problems of the Union in its current format emanate from a flawed structure. We are dominated by one nation and one Parliament, and such supremacy means that the rights and responsibilities of the other nations are frequently being disregarded. An imbalance in the different devolution settlements exacerbates the situation, but there is no suggestion that those who want to strengthen the Union have any intention or desire to reform the current constitutional settlement in order to address the flaws in it.
Consider for a moment how Westminster has increasingly centralised power in Westminster since Brexit and sought to unite the nations of Britain by enforcement, rather than nurturing collaboration between its Governments. We need only to look at the United Kingdom Internal Market Act 2020 and the Subsidy Control Bill, both of which are being forced on Wales. Indeed, referring to the second piece of legislation, the Welsh Labour Finance Minister said:
“Despite suggestions from the UK Government that detailed engagement has been undertaken, the Bill only reflects the narrow interests of the UK Government.”
When the Senedd rejected the legislative consent motion, Westminster disregarded its opposition. Rather than collaboration, what we see is legislation that directly undermines the abilities of the devolved nations to improve the lives of people in their countries.
Onid ydy hyn yn codi allan o ryw ddryswch sylfaenol sy’n cael ei arddangos gan y Llywodraeth ac, yn wir, gan yr Wrthblaid swyddogol? Hynny yw, eu bod nhw’n aml iawn yn cymysgu buddiannau Prydain a Lloegr. Dw i’n meddwl y gwnaethon ni glywed Aelod anrhydeddus dros De Clwyd yn nodi hynny gynnau, pan ddywedodd o “Llywodraeth Lloegr”. Does yna’r un!
(Translation) Does not this situation arise from a fundamental confusion on the part of the Government and, indeed, the official Opposition? That is, they often confuse the interests of Britain and England. I think we heard the hon. Member for Clwyd South indicate as much when he referred to the “English Government”. There is no English Government.
Rwy’n ddiolchgar iawn i’m Ffrind anrhydeddus am ei sylwadau. Yn wir, rwy’n un o’r rheiny sy’n credu’n fawr y byddai’r Undeb, os ydyw e am barhau tuag at y dyfodol, yn buddio’n llwyr o gael Llywodraeth i Loegr a Senedd i Loegr, oherwydd ar hyn o bryd does dim sefydliad o’r fath yn bodoli ac mae’n rhaid i’r Senedd Brydeinig a’r Llywodraeth Brydeinig wisgo dwy het. Rwy’n bell o fod yn berffaith, ond rwy’n credu ei bod hi’n anodd iawn i unrhyw Lywodraeth gyfiawnhau dwy swydd mor bwysig ar yr un pryd.
(Translation) I am grateful to my hon. Friend for those comments. I am one of those who strongly believes that the Union, if it is to continue in the future, would really benefit from there being a Government and a Parliament for England. At the moment, there is no such institution, and the UK Government and Parliament have to wear two hats. Despite the fact that I am far from perfect, I think it is difficult for any Government to justify two such important jobs at the same time.