Autumn Budget as it Relates to Wales (Morning sitting) Debate

Full Debate: Read Full Debate
Department: Wales Office
Ben Lake Portrait Ben Lake (Ceredigion) (PC)
- Hansard - -

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud pwynt diddorol iawn. Wrth gwrs, mae yna ryw gynnydd wedi bod yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, ond a yw e’n hapus, fodd bynnag, gyda sut mae’r cynnydd yna’n cymharu gyda’r cynnydd yng nghyllideb yr Alban, neu hwnnw yng nghyllideb Gogledd Iwerddon yn sgil y gytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd?

(Translation) The Secretary of State makes an interesting point. Yes, there has been an increase in the Welsh Government budget, but is he happy about how that compares with the increase in Scotland or Northern Ireland, given the deal between the UK Government and the Democratic Unionist party?

Alun Cairns Portrait Alun Cairns
- Hansard - - - Excerpts

Yr unig ffordd gallaf ymateb yw trwy gyfeirio at beth ddywedodd Llywodraeth Cymru a Gerry Holtham ar y pryd. Dywedodd Gerry Holtham ei fod yn “setliad teg iawn”, ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru eu hunain gyhoeddi, yn y Cynulliad, y byddai’r fargen hon yn darparu cyllid tymor hir teg i Gymru. Dyna beth ddywedodd Gweinidogion y Cynulliad ym Mae Caerdydd.

(Translation) I can only go back to what the Welsh Government and Gerry Holtham said at the time. He said it was a very fair settlement, and the Welsh Government said in the Assembly that the deal would provide fair, long-term funding for Wales. That is what the Assembly’s Ministers said in Cardiff Bay.

--- Later in debate ---
Ben Lake Portrait Ben Lake
- Hansard - -

Ar fargen twf canolbarth Cymru, un o’r pethau rwyf yn siwr y bydd y tri ohonom sydd yn cynrychioli etholaethau yng nghanolbarth Cymru yn dweud yw cysylltedd—connectivity. Mae dirfawr angen i wella ar hyn yng nghanolbarth Cymru ac rwyf yn fawr obeithio y bydd modd cynnwys hyn yn y fargen yma.

(Translation) On the mid-Wales growth deal, one of the issues for the three of us who represent constituencies in mid-Wales is connectivity. We truly need to make improvements to that in mid-Wales and I hope that it can be included in the growth deal.

Alun Cairns Portrait Alun Cairns
- Hansard - - - Excerpts

Rwyf eisiau tynnu cymunedau at ei gilydd: yn amlwg cymunedau o Geredigion ac o Bowys, ond hefyd rwyf yn gobeithio bydd cyfleoedd i rai o’r siroedd yn Nghymru ac ar yr ochr arall i gydweithio er mwyn denu buddsoddiant newydd i’r ardaloedd ac er mwyn cefnogi’r economi. Mae hynny’n golygu y byddai pob rhan o Gymru yn cael budd o’r gefnogaeth leol a phenodol y mae bargeinion dinesig a thwf yn ei chynnig. Ac mae hyn, wrth gwrs, ar ben y fformiwla Barnett newydd sydd wedi ei chytuno.

(Translation) I am very much in favour of bringing communities together, whether they be the communities of Ceredigion or of Powys, but I am also eager to give opportunities to some of the counties of Wales—and those on the other side of the border too—to work together to attract new investment into those areas and to support the economy. Our policy means that every part of Wales will benefit from the local, targeted support offered by the city and growth deals. That is above the new Barnett formula that has been agreed.

--- Later in debate ---
Alun Cairns Portrait Alun Cairns
- Hansard - - - Excerpts

Rwyf yn falch iawn i ymateb yn bositif. Mae’r ymgynghoriad yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd ynglŷn â franchise Great Western Railways a pha fath o fodel y dylem gydweithio i’w sicrhau, ac rwyf yn argymell bod y Foneddiges anrhydeddus yn ymateb i’r ymgynghoriad. Rwyf eisiau gweld y cysylltiadau gorau posib rhwng Caerdydd, Casnewydd, Bryste a llefydd y tu hwnt yn gyflym ac yn effeithiol, er mwyn iddynt addasu at y cyfleoedd newydd a ddaw yn y rhanbarth sydd yn datblygu wrth i ni gael gwared o’r tollau ar bont Hafren. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r Foneddiges anrhydeddus am ei hymgyrchu i gael gwared o’r tollau.

(Translation): I am very happy to respond positively. The consultation is under way on the Great Western railway franchise and the type of model that we should be collaborating to get. I recommend that the hon. Lady responds to that consultation. Obviously, I want to see the best possible connections between Cardiff, Newport and Bristol, and further afield. They should be quick and efficient for us to grasp the new opportunities that will arrive in a region that is developing, as we get rid of the tolls on the Severn bridge. I pay tribute to the hon. Lady for her campaigning to remove those tolls from the bridges.

Ben Lake Portrait Ben Lake
- Hansard - -

rose—

Alun Cairns Portrait Alun Cairns
- Hansard - - - Excerpts

Hoffwn fwrw ati i orffen yr araith rhywfaint a byddaf yn ildio yn nes ymlaen. Mae fy Ffrind gwir anrhydeddus Canghellor y Trysorlys hefyd wedi amlinellu gwaith ar gyfer y dyfodol i lunio cynigion ar gyfer cynlluniau rheilffyrdd posib eraill ar hyd a lled rhwydwaith Cymru. Roedd ein strategaeth ddiwydiannol yn sail i gyhoeddiadau’r Gyllideb ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y bargeinion a gyhoeddwyd ar gyfer y sectorau deallusrwydd artiffisial, lle mae Casnewydd yn rhagori; gwyddorau bywyd, lle mae Cymru eto ar flaen y gad, gyda nifer o ddatblygiadau cyffrous ac arloesol; a’r diwydiant cerbydau yng Nghymru, sy’n gartref i Toyota, Ford ac Aston Martin.

(Translation): Let me make some progress and I will give way later. The Chancellor of the Exchequer has outlined further work to develop proposals for other potential rail schemes across the Wales network. Our industrial strategy was a basis of the Budget announcements. We are keen to build on the sector deals on artificial intelligence that were announced, where Newport excels. In life sciences, Wales is at the forefront of several exciting and pioneering developments. In the automotive industry, Wales is home to Toyota, Ford and Aston Martin.

Ben Lake Portrait Ben Lake
- Hansard - -

Ar y nodyn hwnnw, crëwyd cryn dipyn o gynnwrf cwpl o wythnosau yn ôl pan ddatgelwyd y pwerdy gorllewinol. Wrth gwrs, roedd yn siomedig i ni yng Ngheredigion mai gorllewin Lloegr yr oedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru yn cyfeirio ati. O ran deallusrwydd artiffisial, eto dyma gyfle ar gyfer cynllun twf canolbarth Cymru. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ganolfan arbenigol, felly byddai’n dda gweld unrhyw fesurau sydd gan y Llywodraeth i geisio ysgogi hyn.

(Translation): On that point, a few weeks ago there was quite some excitement when the western powerhouse was announced. It was unfortunate for Ceredigion that the Secretary of State referred only to south-east Wales and the south-west of England. On AI, there is an opportunity for the mid-Wales growth deal. Aberystwyth has great expertise in that area, so it would be good to see any proposals from the Government to encourage that development.

--- Later in debate ---
Christina Rees Portrait Christina Rees
- Hansard - - - Excerpts

That group deserves some credit and I fully respect that the group has been moving things forward.

Ben Lake Portrait Ben Lake
- Hansard - -

Rwy’n ofni na wnaf i wneud llawer iawn o ffrindiau gyda’r hyn sydd gennyf i’w ddweud. Mae’r Foneddiges anrhydeddus yn gwneud pwyntiau cywir iawn. Un o’r pethau mae’n cyfleu yw pa mor anwastad yw gwariant Llywodraeth Prydain ar draws Cymru yn ddaearyddol. Mae rhaid, er tegwch, pwyntio at ffigyrau Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, sydd yn dangos bod eu cynlluniau nhw ar gyfer gwariant 2017-18 yn cyfrifo at £102 y pen i’r boblogaeth yn y canolbarth a gorllewin Cymru o’i gymharu â £380 y pen i’r rheiny sydd yn byw yn ne-ddwyrain Cymru. Mae yna fai ar y ddwy ochr.

(Translation) I doubt that I will make many friends with what I am saying, but the hon. Lady is making some interesting points. One thing that comes across is how uneven UK Government expenditure is across Wales geographically. In fairness, we must also point to the recent Welsh Government figures, which show that their plans for expenditure in 2017-18 account for £102 per capita of the population in mid and west Wales, compared with £380 for those living in the south-east. There is blame on both sides.

Christina Rees Portrait Christina Rees
- Hansard - - - Excerpts

I am sure the Welsh Government are looking at every area of Wales to increase prosperity, and making every effort to do so.